Yr offer cywir ar gyfer y gwaith: sut y gall gwneuthurwyr y DU osgoi camgymeriadau cyffredin Diwydiant 4.0

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Jaymie Phillips, darlithydd MADE Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant 

O gynllunio trylwyr hyd at gynhyrchu a chydosod, mae prosesau gweithgynhyrchu’r DU yn ffactor allweddol tu ôl i’n henw da am ragoriaeth. Ond wrth i dechnoleg a phrosesau esblygu, bydd ein llwyddiant parhaus ym maes gweithgynhyrchu yn dibynnu ar barodrwydd i gofleidio cyfleoedd newydd.

Yn fynych, cyfeirir at y datblygiadau diweddaraf yn nhechnoleg gweithgynhyrchu fel Diwydiant 4.0. O beiriannau awtonomaidd sgleiniog i ffresnydd aer adweithiol, mae cwmpas Diwydiant 4.0 yn eang ac yn sbarduno trafodaeth ynghylch pa dechnoleg a phrosesau y mae’r term yn eu disgrifio.

Un o themâu cyffredin Diwydiant 4.0 yw’r defnydd o dechnoleg i reoli rhannau o’r broses gweithgynhyrchu heb ymyrraeth ddynol. Ond eto dim ond cyfran fach o’r posibiliadau y mae Diwydiant 4.0 yn eu cynnig yw’r syniad hwn. 

Yn naturiol, mae nifer o sefydliadau am fabwysiadu technoleg ddiweddaraf Diwydiant 4.0 er mwyn cynyddu effeithlonrwydd ac achub y blaen ar y gystadleuaeth. Ond mae diffyg gwybodaeth gywir am ba dechnoleg i fuddsoddi ynddi yn gallu arwain at wneuthurwyr yn gwastraffu arian ar offer drud nad ydynt yn cynyddu effeithlonrwydd eu prosesau cynhyrchu penodol.

Dim ond trwy ddeall yn glir yr holl weithrediadau a thasgau sydd ynghlwm wrth y broses gynhyrchu y gall gwneuthurwyr wireddu manteision Diwydiant 4.0. Mewn geiriau eraill, mae angen i gwmnïau wybod pa bethau sy’n aneffeithlon ynghylch eu prosesau cynhyrchu cyn archwilio sut y gall technoleg Diwydiant 4.0 eu datrys.

Prosiect datblygu nodweddiadol

Gadewch inni ystyried sefydliad a allai elwa o fabwysiadu technoleg Diwydiant 4.0.

Mae cwmni sy’n cynhyrchu ffobiâu allweddi goleuedig yn dibynnu ar brosesau megis mowldio deunyddiau crai, sodro cydrannau electronig a chydosod cynnyrch gorffenedig. Gellir awtomeiddio llawer o’r broses hyn trwy ddefnyddio technoleg Diwydiant 4.0. Yn ogystal, gellir lleihau gwastraff trwy ddefnyddio gweithgynhyrchu darbodus, sef rhywbeth yr ydym yn ystyried yn egwyddor sylfaenol allweddol Diwydiant 4.0. Os yw’r cwmni am ehangu ei ystod cynnyrch a chynyddu allbwn ac, ar yr un pryd, lleihau aneffeithlonrwydd a gwastraff, gallai technoleg Diwydiant 4.0 wireddu hyn.

Mae gwneuthurwr blaenllaw o beiriannau wedi datblygu peiriant sy’n gallu perfformio’r holl dasgau cyfredol y mae’r cwmni ffobiâu allweddi yn eu gwneud, ac sydd hefyd yn gallu bragu coffi ac adnabod bywyd gwyllt. Mae’n ymddangos ei fod yn ateb delfrydol. Ond eto mae’r offer yn costio £500k, sy’n creu penbleth i’r cwmni ffobiâu allweddi. A ddylent ddisodli eu prosesau cyfredol gydag un peiriant, neu a ddylent ddefnyddio’r arian i gyllido datblygu ateb amgen?

Efallai ei fod yn gorsymleiddio, ond mae’r senario hwn yn adlewyrchu’r dewisiadau sy’n wynebu sefydliadau go iawn wrth i’r dirwedd technoleg a chystadleuaeth newid yn gyson.

Ateb amgen

Mae prynu rhywbeth newydd wastad yn gyffrous. Ond er gellir prynu’r ateb i ddatrys problem, nid yw’n golygu pob tro mai hwn yw’r opsiwn gorau.

Yn yr enghraifft uchod sydd wedi’i gorsymleiddio, ni fyddai angen ar y cwmni ffobiâu allweddi yr holl weithrediadau y mae’r peiriant arfaethedig yn eu cynnig – ni fyddai’r gallu i adnabod bywyd gwyllt o unrhyw werth yn eu prosesau gweithgynhyrchu. Byddai’n well o lawer ymchwilio pa weithrediadau fyddai fwyaf buddiol i’r sefydliad a dileu’r angen am nodweddion drud nad ydynt yn ychwanegu unrhyw werth i’r broses gynhyrchu.

Gydag amrywiaeth mor eang o dechnoleg fodern a hyblyg ar gael, mae’n bosibl datblygu prosesau sydd wedi’u teilwra i anghenion sefydliad penodol. Dyma le gellir gwireddu gwir arloesedd gyda Diwydiant 4.0. Gydag ychydig o ddatrys problemau a meddwl yn greadigol, gellir ychwanegu gweithrediadau defnyddiol heb wario arian mawr yn ddiangen. Gall sefydliadau fanteisio ar gynnydd mewn hyblygrwydd yn sgil y datrysiadau maent yn rhoi ar waith, a pherchenogi’r dechnoleg y maent yn ei buddsoddi ynddi.

Mae gweithredu datrysiad wedi’i deilwra fel hyn yn caniatáu cryn dipyn o ryddid, ac eto mae heriau o hyd sydd angen eu goresgyn. Er bod technolegau Diwydiant 4.0 ar gael yn eang, nid oes gan weithgynhyrchwyr bob tro’r sgiliau sydd eu hangen er mwyn eu gweithredu’n effeithlon mewn sefyllfaoedd penodol.

Mae angen yn gyntaf ddeall yn llwyr dasgau’r broses weithgynhyrchu er mwyn gallu datblygu’r ateb gorau posibl. Dylid ychwanegu’r sgiliau angenrheidiol at y ddealltwriaeth hon er mwyn rhoi ar waith atebion o’r math hyn.

Mae MADE Cymru, cyfres o brosiectau a rhaglenni a gynigir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, wedi’i ddylunio’n bwrpasol i ddiwallu’r angen hwn.

Rydym wedi ymgorffori egwyddorion a sgiliau Diwydiant 4.0 yn ein rhaglenni, gan uwchsgilio peirianwyr a gweithgynhyrchwyr er mwyn iddynt ddod o hyd i, a gweithredu’r, datrysiadau cywir yn eu prosesau cynhyrchu.

Mae hyn yn golygu nad yw’r rhai sy’n cymryd rhan yn ein rhaglenni ddim ond yn ystyried pa offer newydd sgleiniog a drud all berfformio’r tasgau gofynnol. Yn hytrach, maent yn dewis y dechnoleg fwyaf addas ac effeithlon ar gyfer y broses ac yn ystyried gofynion a chyfleoedd newidiol diwydiant modern i ddod o hyd i atebion cynaliadwy ac arloesol.

Mae MADE Cymru yn gyfres o brosiectau a ariennir gan yr UE gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru ac a gyflwynir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Cysylltwch ar 01792 481199, [email protected]