Yn cofrestru nawr: cyrsiau MADE Cymru wedi’u hariannu’n llawn sy’n dechrau ym mis Hydref
Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw jyglo gwaith, astudio ac ymrwymiadau teuluol, felly mae ein cyrsiau ar-lein wedi’u cynllunio i fod mor gyfleus â phosibl. Mae gennym ni gannoedd o fyfyrwyr hapus ledled Cymru yn astudio gyda ni yn barod. I gyd o amrywiaeth o wahanol sectorau, rolau swyddi a meintiau cwmnïau.
Mae’r cyrsiau’n cael eu hariannu’n llawn (Cronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru) felly nid oes cost ariannol i’r myfyriwr na’r busnes. Does dim anfantais, OND mae’r cyllid yn dod i ben yn 2023 felly manteisiwch ar y cyfle anhygoel hwn cyn iddo ddiflannu.
Cliciwch yma i lawrlwytho ein taflen wybodaeth ‘10 rheswm da dros astudio gyda ni’
Rydyn ni eisoes yn brysur yn cofrestru myfyrwyr newydd ar gyfer dechrau ar 7 Hydref. Mae'r cwrs wedi creu cymaint o argraff ar lawer o sefydliadau; maen nhw wedi'i argymell i hyd yn oed mwy o'u gweithwyr. Gallan nhw weld yr effaith mae'n ei chael ar gynhyrchiant unigolion a'r cwmni.
Gallwch ddewis rhwng y cyrsiau byr poblogaidd hyn, pob un wedi’i achredu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant:
Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 (Lefel 5)
Modiwlau: Gwregys Gwyrdd Chwe Sigma, Prosiect Grŵp
Mae’r pynciau’n cynnwys; Proses Chwe Sigma DMAIC, Llais y Cwsmer, Rheolau Nelson, Technolegau Diwydiant 4.0 a mwy.
Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0 (Lefel 7)
Modiwlau: Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0, Diwydiant 4.0 Uwch neu Ddylunio ar gyfer Diwydiant 4.0
Mae’r pynciau’n cynnwys; Realiti Rhithwir, Estynedig a Chymysg, Gefeilliaid Digidol, Arweinyddiaeth Systemau, Moeseg Diwydiant 4.0, Technegau Optimeiddio, Methodolegau Dylunio
Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd (Lefel 6/7 yn dibynnu ar leoliad)
Mae’r pynciau’n cynnwys; Rheoli Ansicrwydd a Risg, Mesur Arloesedd, Strategaeth Brandiau a Chynnyrch, Datblygu Cynnyrch, Economi Gylchol, Manyleb Dylunio Cynnyrch.