Mae tîm o beirianwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a ddatblygodd system cymorth anadlol jet argraffedig 3D i helpu’r GIG yn y frwydr yn erbyn Covid 19 wedi cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobr Dewi Sant o dan y categori Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
Mae Gwobrau Dewi Sant, a fydd yn dathlu eu nawfed flwyddyn yn 2022, yn cydnabod gorchest eithriadol pobl o bob cwr o Gymru.
Ym mis Mai 2020, penderfynodd Luca Pagano, Graham Howe, Professor Peter Charlton, John Hughes a Richard Morgan defnyddio eu harbenigedd i ddatblygu system cymorth anadlol jet argraffedig 3D hynod effeithlon wedi’i seilio ar Venturi fel rhan o ymdrech gydlynol i helpu’r GIG yn yr achosion cychwynnol o Covid-19.
Y prif amcan oedd datblygu dyfais y gellid ei gweithgynhyrchu’n rhad, yn gyflym ond, ar yr un pryd, yn hawdd ei defnyddio wrth gynnal lefelau perfformiad uchel. Cafodd y ddyfais ei optimeiddio i allu cyflawni swyddogaethau CPAP megis cynnal pwysau PEEP mewn sefyllfaoedd lle byddai ysbytai dan bwysau eithriadol a lle’r oedd y cyflenwad ocsigen yn gyfyngedig.
Dywedodd Luca Pagano o’r Drindod Dewi Sant, Uwch Beiriannydd Prosiectau Ymchwil yn MADE Cymru: “Gwelwyd fod dyfeisiau CPAP safonol yn hynod aneffeithlon, ac yn lle hynny gallai ein dyfais ni weithredu gan ddefnyddio traean o’r ocsigen. Mae hefyd yn anghyffredin iawn i ddyfeisiau Venturi allu cynnal pwysau cadarnhaol yn hyderus o fewn llwybrau anadlu’r claf wrth gyflenwi cymysgeddau nwy cywir. Cyflawnwyd hyn trwy nifer o gamau ailadroddol rhwng modelu a phrofi.”
Gofynnodd Peiriannydd Biofeddygol Arweiniol yn Nepal a oedd wedi darllen y newyddion am y Venturi, a allai’r tîm rannu eu ffeiliau 3D i’w hargraffu yn ei ysbyty yn Pokhara lle’r oedd sefyllfa COVID-19 yn gwaethygu bob munud.
Ymatebodd y tîm yn gyflym gan roi cytundeb trwydded mewn lle ac yna darapru’r holl ddogfennaeth/ffeiliau technegol a chefnogi’r peirianwyr yn Nepal gydag unrhyw ymholiadau. Cynhyrchwyd y ddyfais yn llwyddiannus gydag argraffwyr bwrdd gwaith 3d a’i defnyddio i achub bywydau.
Ychwanegodd Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru: “Daeth Dr Steven Fielding â’r broblem gychwynnol i fy sylw 10 mlynedd yn ôl cyn i mi ymuno â’r Brifysgol, a bu ef a minnau’n gweithio ar y syniad, ynghyd â David Williams o Ysgol Gweithgynhyrchu a Logisteg y Drindod Dewi Sant a oedd yn astudio’n rhan amser ar gyfer MSc Gweithgynhyrchu Darbodus ac Ystwyth.
“Fe wnaethon ni ail edrych ar y mater yn ystod cyfnod cynnar Covid wrth i ni sylweddoli bod ganddo’r potensial i helpu, yn enwedig yng nghyd-destun cyflenwadau ocsigen prin. Ond roedd materion sylweddol i’w datrys o hyd o ran ei ffiseg fel bod modd ei weithgynhyrchu ledled y byd mewn llefydd fel Nepal.
“Mae cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dewi Sant yn glod cyffrous i ni ac yn foment falch i’r tîm ac mae’n dangos yn glir sut y gall gwaith Ymchwil a Datblygu yn y Drindod Dewi Sant fynd i’r afael â heriau byd-eang hollbwysig.”
Wrth gyhoeddi’r teilyngwyr, dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Mae rhai o’r bobl sydd ar y rhestr fer wedi dangos dewrder a phenderfyniad eithriadol. Mae eraill wedi dangos ysbryd cymunedol anhygoel er gwaetha’r pwysau aruthrol o fyw drwy bandemig y coronafeirws.
Mae ein teilyngwyr yn bobl syfrdanol ac rydym yn ffodus iawn eu bod yn byw yng Nghymru. Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rhestr fer a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’i amser i enwebu rhywun am wobr – yn anffodus mae’n amhosib rhoi pawb ar y rhestr fer.”
Dywedodd Barry Liles, OBE, Dirprwy Is-Ganghellor Sgiliau a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant: “Mae’r Brifysgol yn falch o weld y tîm hwn yn cael ei gydnabod am eu cydweithrediad; ymdrechion arloesol a wnaed ar anterth y pandemig. Wrth ymdrechu i gynnal eu llwyth gwaith o ddydd i ddydd, gyda’r holl gyfyngiadau a osododd Covid arnynt, buont yn gweithio y tu hwnt i’r disgwyl i ddod o hyd i ateb yn gyflym sydd wedi esgor ar fudd sylweddol. Daeth eu hangerdd a’u brwdfrydedd i’r amlwg wrth iddynt weithio tuag at sicrhau canlyniad cadarnhaol.
Categorïau’r gwobrau eleni yw: Dewrder, Busnes, Ysbryd y Gymuned, Gweithiwr Allweddol, Diwylliant, Pencampwr yr Amgylchedd, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Chwaraeon, Person Ifanc, a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni ar Ebrill 7.