Ewch ati i gaboli’ch sgiliau gydag un o gyrsiau byr MADE Cymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae cyrsiau byr MADE Cymru sy’n rhoi hwb i’r diwydiant yn ddelfrydol ar gyfer gweithwyr sydd am ffitio astudio o amgylch eu hymrwymiadau gwaith a chartref. Maen nhw wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer gweithgynhyrchwyr yng Nghymru. Caiff y cyrsiau hyblyg eu dysgu’n fyw ac ar-lein ar brynhawn dydd Gwener ac mae’r holl ddarlithwyr yn arbenigwyr yn y diwydiant. Rydym yn ffodus bod gennym fyfyrwyr gwych o wahanol sectorau a rolau swyddi eisoes yn astudio gyda ni. Ac mae’r adborth wedi bod yn anhygoel, gyda sefydliadau’n adrodd am yr effeithiau cadarnhaol y mae’r myfyrwyr yn eu cael ar eu busnesau.

Mae pob cwrs wedi’i achredu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).

Dywedodd James Davies, Cadeirydd Gweithredol yn Diwydiant Cymru: “Mae Diwydiant Cymru yn gwbl gefnogol i’r cyrsiau hyn. Ar adeg o newid a her sylweddol i sector gweithgynhyrchu Cymru, mae’r gwaith hwn yn amserol ac yn hollbwysig. Gyda hanes sefydledig o ddarparu atebion sy’n canolbwyntio ar ddiwydiant, mae prosiect MADE Cymru ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant mewn sefyllfa ddelfrydol i gyflawni gwaith o’r fath.”

Dyma’r cyrsiau sydd ar gael:

Tystysgrif Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 (Lefel 5)

Modiwl Gwregys Gwyrdd Chwe Sigma:

  • Proses DMAIC Chwe Sigma; Diffinio, Mesur, Dadansoddi, Gwella a Rheoli.
  • Llif Prosesau, Llais y Cwsmer, Systemau Mesur, Gallu Prosesau, Rheolau Nelson, Delweddu Data, Dadansoddi Gwraidd y Broblem, Cynllunio Arbrofion a Rheoli Risg ac ati.
  • Cymhwyso’r offer hyn yn effeithiol i gefnogi pob cam o brosiect Chwe Sigma.
  • Nodi technolegau perthnasol Diwydiant 4.0 i gefnogi Gwelliant Parhaus.
  • Integreiddio technolegau Diwydiant 4.0 ar gyfer offer presennol ac offer etifeddol

Modiwl Prosiect Grŵp:

  • Defnyddio technolegau Diwydiant 4.0 gyda disgyblaethau Chwe Sigma mewn prosiectau yn y gweithle.
  • Cyflwyniad i fethodolegau Gweithio mewn Tîm, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau tîm.
  • Dulliau adrodd a chyflwyniadau Chwe Phanel Chwe Sigma.
  • Tiwtorialau prosiect bob pythefnos gydag ymarferwyr Gwelliant Parhaus.

Tystysgrif Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0 (Lefel 7)

Modiwl Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0:

  • Strategaethau gweithgynhyrchu meddwl darbodus sy’n elwa ar dechnolegau Diwydiant 4.0.
  • Mapio Ffrwd Gwerth i nodi technoleg effaith economaidd bosibl.
  • Manteision posibl Rhyngrwyd Diwydiannol Pethau.
  • Gweithgynhyrchu clyfar gan gynnwys egwyddorion Ffatri’r Dyfodol.
  • Rôl data, gan gynnwys effeithiau cyfrifiadura cwmwl a seiberddiogelwch.

Modiwl Diwydiant 4.0 Uwch:

  • Cymwysiadau technoleg uwch gan gynnwys realiti rhithwir, estynedig a chymysg.
  • Nodi manteision efelychu ‘efeilliaid digidol’.
  • Dileu aneffeithlonrwydd gan ddefnyddio’r ‘llinyn digidol’.
  • Systemau arwain, llywodraethu a moeseg technolegau Diwydiant 4.0.


Modiwl Dylunio ar gyfer Diwydiant 4.0

  • Technegau Dylunio ac Optimeiddio Cynhyrchu ar gyfer strategaethau gweithgynhyrchu Diwydiant 4.0.
  • Methodolegau dylunio ar gyfer Cydosod Awtomataidd, Dadgydosod Awtomataidd ac ati.
  • Methodolegau Ansawdd Dylunio sy’n sail i’r defnydd o dechnoleg.
  • Dadansoddi Gwerth / Peirianneg Gwerth er mwyn sicrhau budd economaidd technolegau Diwydiant 4.0

Bydd myfyrwyr yn astudio Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0 ac yna’n dewis naill ai’r modiwl Diwydiant 4.0 Uwch neu’r modiwl Dylunio ar gyfer Diwydiant 4.0.

Tystysgrif Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd (Lefel 6/7*)

Modiwl Cyflwyniad i Reoli Arloesedd:

  • Mathau o reoli arloesedd
  • Rheoli ansicrwydd a risg
  • Heriau a rhwystrau
  • Sbardunau busnes
  • Sbardunau technoleg
  • Mesur arloesedd
  • Arloesi agored

Modiwl Rheoli Datblygu Cynnyrch Newydd:

  • Strategaeth brand a chynnyrch
  • Modelau busnes ar gyfer datblygu cynnyrch
  • Rheoli ymchwil a datblygu
  • Datblygu cynnyrch ar y cyd
  • Economi gylchol
  • Creu manyleb dylunio’r cynnyrch

*Holwch ni am ba lefel rydych chi’n gymwys ar ei chyfer (mae cyfyngiadau daearyddol yn berthnasol).

Mae MADE Cymru yn cynnig cyrsiau sydd wedi’u cynllunio i gaboli sgiliau gweithgynhyrchwyr yng Nghymru. Ariennir yn rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Fe’u cyflwynir a’i hardystir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Gwnewch nawr yr amser i gaboli eich sgiliau. Anfonwch e-bost atom ni [email protected] a gallwn anfon rhagor o wybodaeth atoch chi neu drefnu sgwrs gydag un o’r darlithwyr. Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi.