Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Gyda dros ddeng mlynedd o brofiad o weithio yn y sector Addysg Uwch, yn ddiweddar mae Neil wedi ymgymryd â rôl y ‘Prif Swyddog Prosiect’ yng nghyfres MADE o brosiectau.

Gan weithredu fel y cyswllt gweinyddol rhwng staff Academaidd a myfyrwyr, mae llygad craff Neil am fanylion a’i agwedd bositif yn sicrhau bod tasgau’n cael eu cwblhau’n brydlon a gyda chyn lleied o ffwdan â phosibl.

Yn ei amser hamdden, mae Neil yn hoffi crwydro siopau elusen i chwilio am recordiau finyl a hen duniau (i gadw ei bethau mân). Mae hefyd wrth ei fodd â thatws rhost, deinosoriaid a Hip-Hop ‘yr Oes Aur’.