Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Lisa Lucas yw Pennaeth MADE Cymru ac mae’n dod â thros 16 mlynedd o brofiad datblygu busnes i’r rôl. Mae ei chyfrifoldebau’n cynnwys meithrin a chynnal cysylltiadau effeithiol gyda’r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru, yn ogystal â datblygu cynigion a rheoli prosiectau ymchwil cydweithredol o fewn y sefydliad.

Gyda’i phrofiad helaeth o reoli prosiectau, mae Lisa wedi datblygu a rheoli sawl prosiect Ymchwil a Datblygu cydweithredol yn llwyddiannus rhwng y Brifysgol a diwydiant. Mae hi hefyd wedi rheoli prosiect Ewropeaidd Cymru gyfan, a fu’n gymorth i dros 200 o fusnesau fabwysiadu systemau a phrosesau newydd.

Dros y degawd diwethaf, cafodd Lisa brofiad o reoli nifer o brosiectau yn y sector gweithgynhyrchu gyda chwmnïau amrywiol eu maint, o gwmnïau angori mawr megis Aston Martin a Calsonic Kansei i BBaCh lleol. Roedd y cydweithrediadau hyn yn amrywio o ran maint, cwmpas, a meysydd ymchwil, gan gwmpasu ystod o dechnolegau.

Mae Lisa yn adnabyddus am ei natur ddymunol a siriol, sydd wedi bod o gymorth iddi sefydlu a chynnal cysylltiadau gwaith cadarnhaol dros y blynyddoedd. Mae hi’n edrych ymlaen yn eiddgar at bob her a ddaw o gyfeiriad tirwedd diwydiant Cymru sy’n esblygu’n gyson ac mae hi’n awyddus i wneud cyfraniad arwyddocaol yn ei rôl fel Pennaeth MADE Cymru.