Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Peiriannydd awyrofod gydag arbenigedd deuol mewn dadansoddi rhifiadol cyfrifiannol a thechnoleg Rocket & Space. Ar ôl gweithio am flwyddyn ym maes ymchwil a datblygu i gwmni olew a nwy, penderfynodd Akash wneud doethuriaeth mewn Peirianneg Fecanyddol. Ymunodd â Chanolfan Gweithgynhyrchu Swp Uwch Cymru fel ymchwilydd doethurol, lle bu’n gweithio am dair blynedd i liniaru’r risg sy’n gysylltiedig â mewnblaniadau meddygol pwrpasol argraffedig 3D trwy ddefnyddio technegau ystadegol ar y cyd â dadansoddiad rhifiadol. Ar ôl cwblhau doethuriaeth, ymunodd Akash â MADE Cymru fel Swyddog Ymchwil er mwyn darparu atebion peirianneg glyfar yn unol â Diwydiant 4.0 i BBaCh.

Ers i ochr Ymchwil a Datblygu MADE Cymru gael ei chwblhau, mae Akash wedi bod yn cymhwyso ei arbenigedd i amrywiaeth o brosiectau cyffrous gyda CBM yn PCYDDS.