Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Manufacturing, Quality Green Belt Six Sigma, Industry 4.0

Mae David Jones yn ddarlithydd ar y rhaglen Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0. Yn benodol, mae’n cefnogi prosiectau Ansawdd Gwregys Gwyrdd Chwe Sigma gyda Diwydiant 4.0.

Mae David yn beiriannydd ac yn rheolwr prosiect profiadol sydd â phrofiad sylweddol o weithio yn y diwydiannau hedfan, modurol, olew a nwy ar lefel rheoli gweithredol a goruchwylio gweithfeydd. Mae’n dod â’r profiad o weithio, ym mhob un o’r sectorau, ar gyflwyno cynnyrch newydd, megis y BMW Mini o fewn y sector modurol a llafnau ffan titaniwm ar gyfer Rolls Royce.

Mae wedi treulio cryn dipyn o amser yn gweithio gyda chyflenwyr trydydd parti i wella eu galluoedd gweithgynhyrchu a defnyddio’r offer Gwella Parhaus o fewn diwydiannau sy’n amharod ac yn wrthwynebus i newid.