Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae Andrew Killen yn uwch gymrawd ymchwil yn PCYDDS, yn arbenigo mewn peiriannau tyrbinau nwy, gwyddor deunydd, a modelu cyfrifiadurol o fewn y diwydiant awyrofod. Yn ogystal â hyn, mae gan Andrew ddiddordeb mawr mewn dylunio cynhyrchiol Ai ac optimeiddio systemau mecanyddol cymhleth ar raddfa fawr sy’n ategu ei gefndir dylunio peirianyddol. Treuliodd Andrew 5 mlynedd fel aelod allweddol o brosiect a ariannwyd gan y diwydiant mewn partneriaeth â Rolls-Royce Plc, lle cynhaliodd ymchwil arloesol ar ludded cylchred uchel ac effaith diffygion arwyneb ar aloion awyrofod.

Cyn ei raglen doethuriaeth ddiwydiannol, cwblhaodd Andrew Radd Meistr mewn Peirianneg Beiciau Modur yn PCYDDS, gan ganolbwyntiodd ar ddylunio injan hylosgi mewnol a modelu thermodynamig. Drwy gydol ei yrfa academaidd, mae Andrew wedi gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau heriol ac mae wrth ei fodd yn gweithio ar broblemau peirianneg cymhleth.

Ers i ochr Ymchwil a Datblygu MADE Cymru gael ei chwblhau, mae Andrew wedi bod yn cymhwyso ei arbenigedd i amrywiaeth o brosiectau cyffrous gyda WISA yn PCYDDS.