Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Amanda Hayden yw’r Prif Swyddog Prosiect ar brosiect I4.0 Cymru. Mae gan Amanda dros 28 mlynedd o brofiad o reoli a gweinyddu prosiectau yn y sector addysg uwch. Mae Amanda wedi rheoli a chydlynu llawer o gysylltiadau masnachol rhwng y Brifysgol a sefydliadau fel y Weinyddiaeth Amddiffyn, Stenor ac Oceaneering. Mae hefyd wedi bod yn arweinydd allweddol ar yr agenda entrepreneuriaeth myfyrwyr, gan drefnu digwyddiadau a gweithgareddau proffil uchel byd-eang er mwyn cael effaith gadarnhaol ar nifer y myfyrwyr sy’n dechrau eu busnes eu hunain. Arbenigedd Amanda yw rheoli digwyddiadau a phrosiectau – yn strategol ac yn weithredol.

Y tu allan i’r gwaith mae Amanda yn hoffi treulio amser gyda’i theulu a’i ffrindiau, mae hi wrth ei bodd yn cymdeithasu a chadw’n heini a mynd am dro gyda Frankie, ei babi fflwfflyd.