Sut Gall Gweithgynhyrchwyr sy’n Moderneiddio Helpu i Lenwi’r Bwlch

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Andrew Walker yw’r Cyfarwyddwr Ymgysylltu â Busnesau gyda’r prosiect MADE – cyfres o brosiectau wedi eu hariannu gan Ewrop sy’n cael eu darparu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS) drwy ei Ganolfan Gweithgynhyrchu Arloesol ac Arbrofol (CBM). Mae’n rhannu rhai o’i syniadau ar sut y gall mabwysiadu dulliau a thechnolegau newydd o fewn gweithgynhyrchu ein helpu i gau’r bwlch sgiliau.

Mae’r bwlch sgiliau y mae cymaint o siarad amdano wedi bod yn fan gwan i weithgynhyrchu ers tro byd, ac yma yng Nghymru mae’n cael ei deimlo’n arbennig mewn ardaloedd gwledydd, ymhell o’r prif ddinasoedd.

Ond mae gweithgynhyrchu’n gyfrifol am tua 15 y cant o gyflogaeth yng Nghymru ac os ydyn ni am ffynnu’n economaidd, mae’n hanfodol ein bod yn bachu ar bob cyfle. Budd unrhyw ddiffyg hir-dymor yn y ddarpariaeth o dalent, wrth gwrs, yn tanseilio ysbryd cystadleuol gweithgynhyrchwyr Cymru a llesteirio eu gallu i arloesi ac i foderneiddio – ac i aros yn gystadleuol. Felly rhaid ffocysu pob ymdrech ar gau’r bwlch yma.

Diolch i nifer o ffactorau cyffredin, newidiadau mewn diwydiant a chamau newydd mewn technoleg, gallwn fod mewn gwell lle nag erioed i ddatrys y mater hwn. Mae’r rhesymau am y bwlch sgiliau yn hysbys. Mae pobl yn dal i gredu’r camsyniadau bod:

  • Gweithgynhyrchu’n waith sgil isel, yn fudr ac yn ailadroddus
  • Nid yw gweithgynhyrchwyr yn ‘gwneud gwahaniaeth’
  • Mae gweithgynhyrchu’n amgylchedd i ddynion yn unig
  • Mae’n cynnig gwaith cyflog isel yn unig

Mae angen i ni i gyd weithio’n galetach i chwalu’r mythau yma. Mewn gwirionedd mae gweithgynhyrchu’n amgylchedd sgil uchel, technoleg uchel gyda phwyslais parhaus ar ansawdd, effeithiolrwydd ac arloesedd. Ymhell o fod yn yrfa anfoddhaol, mae gweithgynhyrchwyr a pheirianwyr yn gwneud union bethau y byd modern – yr offer meddygol sy’n newid bywydau, cludiant y genhedlaeth nesaf, y dechnoleg sy’n cefnogi’r gwelliannau hynny mewn nwyddau adnewyddadwy sy’n rhagflaenu cyfnod modern newydd.  Os oes unrhyw sector yn newid bywydau a’r byd o’n cwmpas, gweithgynhyrchu yw hwnnw.

Mae gweithgynhyrchu wastad wedi bod yn gymysgedd eang, gyda nifer o wahanol fathau o rolau ar gael i’r gweithlu. Ond mae’r rhain yn ddyddiau cyffrous dros ben ar gyfer ceiswyr gwaith newydd, sy’n gyfarwydd â thechnoleg, gyda hoffter o dechnoleg newydd.  Mae hyn yn arbennig o wir gan fod twf technolegau digidol a gweithgynhyrchu’n pylu’r llinellau traddodiadol rhwng gweithgynhyrchu a’r busnesau gwasanaethu yn y sector digidol.

Mae gwneuthurwyr a gweithgynhyrchwyr traddodiadol cerbydau modur, er enghraifft, yn buddsoddi’n drwm mewn technolegau ceir newydd, cysylltiedig. Mae data mawr yn priodi gweithgynhyrchu â gwasanaethau, a rhaid i weithluoedd fod yn ystwyth, yn gallu addasu ac yn gyfarwydd â thechnoleg i gymryd rhan yn y newid ymledol hwn.

Mae technolegau tarfol yn cyflwyno newidiadau esblygol y mae pobl ifanc mewn lle delfrydol i helpu i’w cyflwyno, er lles ein economi ni yma yng Nghymru. Ar draws Ewrop rydyn ni’n gweld nifer fawr o gwmnïau gyda’u gwreiddiau mewn gweithgynhyrchu a chaledwedd traddodiadol yn ailffurfio eu busnes, er mwyn iddo fod yn seiliedig ar feddalwedd a data. Gallai’r newid hwn weld, er enghraifft, gweithgynhyrchwr yn defnyddio data i helpu cwsmeriaid i reoli eu cynhyrchu, i archebu cyflenwadau, i amserlenni llwythi gwaith, neu i ragweld pryd y bydd angen rhannau newydd ar beiriannau.

O’n rhan ni, yma yn prosiect MADE, rydyn ni’n cefnogi gweithgynhyrchwyr cymwys yng Nghymru i adnabod a chofleidio’r manteision sy’n cael eu cynnig gan dechnolegau tarfol, ac i uwchsgilio eu gweithluoedd i’w defnyddio er lles y sefydliad. Yr allwedd i ddatgloi dyfodol llwyddiannus yw rhagor o’r math yma o weithio mewn partneriaeth – ymdrech ar y cyd gan gwmnïau ar draws cadwynau cyflenwi, ysgolion, sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach a llywodraeth yng Nghymru i wneud addysg a hyfforddiant yn berthnasol.

Mae newidiadau radical ar waith o fewn gweithgynhyrchu, gan alluogi dylifiad o dalent newydd i mewn i ddiwydiant, yn cael eu denu gan yrfaoedd sy’n heriol, ar flaen y gad, yn enillfawr ac yn rhoi boddhad.

Am ragor o fanylion am Brosiect MADE, sy’n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewrop, ewch i: https://www.madecymru.co.uk/cy/