Yr arbenigwr roboteg Mahesh Kannath yn ymuno â thîm addysgu MADE Cymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae tîm MADE Cymru yn falch iawn i groesawu Mahesh Kannath i’r rhaglen. Dechreuodd Mahesh ei yrfa fel peiriannydd roboteg a bu’n gweithio ar amrywiaeth eang o brosiectau technoleg ar gyfer gwahanol sefydliadau mewn gwahanol swyddi.  

Roedd rhai o’r aseiniadau gwaith yn cynnwys dylunio, datblygu, profi ac integreiddio roboteg diwydiannol a systemau awtomeiddio. Mae ei arbenigedd yn cynnwys roboteg, awtomeiddio, systemau mewnosodedig, dysgu peirianyddol, profi systemau, gwirio, a dilysu ac ati. Yn ystod swydd Cydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Khalifa, Abu Dhabi, sylweddolodd ei angerdd am addysgu a dechreuodd ar swydd addysgu lawn amser ym Mhrifysgol Dubai. Ar hyn o bryd mae’n gweithio fel darlithydd Diwydiant 4.0 gyda MADE Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.  

Meddai Mahesh, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at fynd i’r afael â rhai o’r prosiectau uwch yn rhaglen MADE Cymru. Mae eisoes yn gyffrous gweld beth mae’r myfyrwyr yn ei gyflawni, a faint o wahanol sectorau gweithgynhyrchu sy’n cydweithio ar y cyrsiau.” 

Dywedodd Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru, “Rydym yn hynod ddiolchgar i gael Mahesh yn ymuno â’r tîm. Mae ganddo brofiad sylweddol, a gwn y bydd y myfyrwyr yn elwa o’i arbenigedd mewn roboteg ac awtomeiddio. Rwy’n credu hefyd y bydd y staff yn elwa o’i egni a’i wybodaeth.”