Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Ein Rhaglen

Ni ddylid byth gadw arloesedd I un adran o gwmni gweithgynhyrchu. Er mwyn I fusnesau ffynnu, mae angen diwylliant cryf o arloesi ym mhob rôl, o beirianneg a logisteg i farchnata a chyllid. Gyda’r rhan fwyaf o’n myfyrwyr eisoes yn weithgar mewn rolau mewn busnesau a sefydliadau yng Nghymru, rydym wedi cynllunio ein rhaglen i fod yn hyblyg ac yn addasadwy i ddiwallu anghenion cyflogwyr.

Rydym yn cynnig cwrs Gwella Busnes gyda Rheolaeth Arloesedd byr 32 wythnos sy’n crynhoi’r wybodaeth ymarferol bwysicaf yn ddau fodiwl allweddol.

Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0
(Tystysgrif 40 credyd Lefel 5)

Yn y rhaglen 32 wythnos hon, bydd myfyrwyr yn cwblhau dau fodiwl: Ansawdd Chwe Sigma Gwregys Gwyrdd a phrosiect grŵp. Bydd gan raddedigion ddealltwriaeth drylwyr ac ymarferol o sut y gellir cymhwyso technolegau datblygedig Diwydiant 4.0 i bob agwedd ar weithgynhyrchu modern.

Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0
(Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)

Yn y rhaglen 32 wythnos hon, bydd myfyrwyr yn cwblhau dau fodiwl: Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0 gyda dewis o naill ai Ddiwydiant 4.0 Uwch neu Ddylunio ar gyfer Diwydiant 4.0. Bydd gan raddedigion ddealltwriaeth drylwyr ac ymarferol o sut y gall technolegau uwch Diwydiant 4.0 gynyddu effeithlonrwydd, sicrhau’r cynhyrchiant mwyaf posibl a sicrhau bod busnesau’n addas ar gyfer y dyfodol.

A yw Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 yn addas i mi?

Ydych chi’n gweithio I gwmni gweithgynhyrchu yng Nghymru? A ydych eisiau datblygu eich gyrfa drwy ddysgu hanfodion arloesi ar raglan gefnogol sydd wedi’i hariannu’n llawn? Gallai Rheoli Arloesedd fod yr ateb.

Mae ein rhaglen wedi’i chynllunio gan arweinwyr diwydiant profiadol sy’n deall yr heriau y mae gweithgynhyrchwyr modern yn eu hwynebu. Gyda’r rhan fwyaf o’r cwrs yn cael ei gyflwyno o bell trwy ein porth dysgu rhithwir, gallwch barhau i weithio trwy gydol eich astudiaethau, gan brofi darlithoedd a deunydd cwrs ar-lein wrth gymhwyso’ch gwybodaeth newydd i sefyllfaoedd go iawn yn eich rôl bresennol.

Nefyn Roberts
Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 MADE Cymru
Jaydee Necesito
Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 MADE Cymru

Bydd y cyrsiau hyn yn cyflwyno pobl i bynciau newydd, pob un yn ymwneud â thechnolegau Diwydiant 4.0. Bydd hyn yn galluogi cyfranogwyr o bob rhan o Gymru i ddatblygu’r sgiliau sy’n gynyddol bwysig i dwf, arloesedd a gwydnwch busnesau. Mae’n bwysig bod pobl yn cael cyfleoedd parhaus i ddysgu, ac mae’r fenter ragorol hon, dan arweiniad Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn dod â chwricwlwm a arweinir gan y diwydiant a dysgu ar-lein cyfunol ar ei gilydd gan ei gwneud yn hawdd i unrhyw un gael mynediad ato

Mark Thomas, Rheolwr Safle, Energizer UK

Lawrlwythwch gopi o’r cynllun sy’n cael ei gofrestru gyda’r Comisiwn Ewropeaidd ar hyn o bryd.

LAWRLWYTHO’R CYNLLUN

Taflen Wybodaeth

GWELLIANT PARHAUS GYDA DIWYDIANT 4.0
(TYSTYSGRIF LEFEL 5 40 CREDYD)

LAWRLWYTHO

Ar-lein o
Chwefror 3 2023 (rhan-amser)

Gwregys Gwyrdd Six Sigma Ansawdd
Prosiect Grŵp

GWELLIANT PARHAUS GYDA DIWYDIANT 4.0
(TYSTYSGRIF LEFEL 5 40 CREDYD)


GWNEWCH GAIS NAWR

Taflen Wybodaeth

Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0
(Tystysgrif 40 credyd Lefel 7)

LAWRLWYTHO

Ar-lein o
Chwefror 3 2023 (rhan-amser)

Cyflwyniad i Ddiwydiant 4.0
Diwydiant 4.0 Uwch neu
Dylunio ar gyfer Diwydiant 4.0

GWEITHGYNHYRCHU CLYFAR GYDA DIWYDIANT 4.0
(TYSTYSGRIF 40 CREDYD LEFEL 7)

GWNEWCH GAIS NAWR

CWESTIYNAU CYFFREDIN

CLICIWCH YMA AM
GWESTIYNAU CYFFREDIN

DYSGU MWY


Eisoes yn cymryd rhan yn
Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0:Cymru?

MYNEDIAD I AMGYLCHEDD
DYSGU RHITHWIR PCYDDS

MYNEDIAD

Newyddion a Digwyddiadau

CLICIWCH YMA AM NEWYDDION A DIGWYDDIADAU
DIWEDDARAF MADE CYMRU

DARLLEN MWY

Siaradwch â ni

I ddysgu mwy am Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 neu unrhyw un o’r rhaglenni a gynigir gan MADE Cymru, cysylltwch â ni heddiw.