Penodi Jaymie Phillips MADE Cymru yn feirniad LEGO®

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) yn cynnal amrywiaeth eang o weithgareddau ledled Cymru gan gynnwys Prosiect STEMCymru2, gan roi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ymarferol o weithio gyda diwydiannau, busnesau ac addysg uwch – pob un â’r amcan o hyrwyddo addysg a chyflogaeth STEM fel dewisiadau deniadol i bobl ifanc.

Mae EESW yn bartner i FIRST® LEGO® League (FLL) yng Nghymru – her STEM fyd-eang i dimau o bobl ifanc, i annog diddordeb mewn themâu byd go iawn a datblygu sgiliau allweddol sy’n hanfodol ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae’r myfyrwyr yn archwilio pwnc gwyddonol penodol ac yn cynllunio, yn rhaglennu ac yn profi robot awtonomaidd i ddatrys sawl her. Rhennir yr her yn 4 adran; Dylunio Robot, Gemau Robot, Prosiect Arloesi, a Gwerthoedd Craidd.

Gofynnwyd i ddarlithydd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant a MADE Cymru Jaymie Phillips i feirniadu digwyddiadau terfynol De-ddwyrain Cymru ym mis Mehefin. Bydd beirniaid yn cael mynediad ymlaen llaw i ‘Hwb Digwyddiad o Bell’ lle bydd timau’n uwchlwytho eu deunyddiau i’w hadolygu. Ar ddiwrnod y digwyddiad rhithiol, bydd timau ysgolion yn cael galwad asesu rhithiol byw 1 awr gyda’u panel beirniadu, i gynnwys amser ar gyfer cwestiynau beirniaid a sgorio. Bydd pob panel o feirniaid yn cael sesiwn drafod unwaith y bydd y slot asesu wedi’i gwblhau, lle byddant wedyn yn rhannu’r daflen sgorio ar gyfer pob maes beirniadu a’i chyflwyno i’r Hwb.

Dywedodd Jaymie Phillips, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael bod yn feirniad yn y gystadleuaeth hon. Rwyf wrth fy modd â LEGO® a’r ffordd y gellir ei ddefnyddio fel offeryn addysgu i greu, datrys ac arloesi cynhyrchion. Dyma gyfle gwych i ddangos i’n pobl ifanc yng Nghymru bod pynciau STEM yn ddewisiadau gyrfa deniadol. Rwy’n dysgu gweithgynhyrchwyr am sut y gall mabwysiadu technolegau newydd roi hwb i’w prosesau a’u cynhyrchion – nid yw’n rhy annhebyg i’r hyn y mae’r bobl ifanc dalentog hyn yn ei wneud.”

Dywedodd Rebecca Davies, Prif Swyddog Gweithredol EESW “Rydym yn ddiolchgar iawn i bob sefydliad sydd wedi cynnig gwirfoddolwyr ar gyfer digwyddiadau rhithiol cynghrair FIRST® LEGO® eleni. Mae’n bleser gallu cynnal y digwyddiadau hyn i ddathlu llwyddiant disgyblion sydd wedi gallu ymgysylltu â’r gweithgaredd o bell. Bydd EESW STEMCymru yn parhau i roi cyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn prosiectau cyffrous fel hyn diolch i gyllid estynedig trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru.”

Mae MADE Cymru yn gyfres o raglenni sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau trwy Ddiwydiant 4.0 trwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Ariannir gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Cyflwynir gan Brifysgol Cymru Drindod Dewi Sant. Ewch i www.madecymru.ac.uk, ffoniwch 01792 481199 neu [email protected]