Pam mai gweithgynhyrchu darbodus yw’r ffordd orau ymlaen i Gymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Awdur: Graham Howe, Prif Gymrawd Ymchwil, MADE Cymru, Prifysgol Cymru Drindod Dewi Sant

Mae gweithgynhyrchu darbodus yn rhoi pobl o flaen technoleg, gan alluogi timau i wneud penderfyniadau gwell ar ran y cwmnïau maen nhw’n gweithio iddyn nhw.

Yn rhy aml o lawer, rydym yn clywed am sut y bydd Diwydiant 4.0 (y pedwerydd chwyldro diwydiannol) yn newid ein gweithgynhyrchu a modelau busnes yn ddramatig. Yn ddealladwy, mae hyn yn arwain llawer o gwmnïau i ofyn pa dechnolegau yw’r rhai iawn i fuddsoddi ynddynt, neu pa sgiliau fydd eu hangen er mwyn defnyddio offer a phrosesau diweddaraf Diwydiant 4.0.

Cwestiwn pwysicach fyth i’w ystyried yw sut y bydd technolegau Diwydiant 4.0 yn cael effaith gadarnhaol ar eich cynhyrchiant a’ch cystadleurwydd. Wedi’r cyfan, oni bai bod eich cwmni’n debygol o weld gwelliant sylweddol yn y meysydd hyn, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr buddsoddi mewn technolegau drud.

Yma ym Mhrifysgol Cymru Drindod Dewi Sant, nod ein rhaglen MADE Cymruyw datrys heriau fel hyn a allai fod yn ddryslyd. Mae ein dull yn dechrau trwy edrych ar yr hyn sydd ei angen ar gwmnïau er mwyn cynyddu eu cynhyrchiant a’u cystadleurwydd. Anelwn at arwain y busnesau rydyn ni’n gweithio gyda nhw trwy siwrnai o welliant parhaus – taith sy’n gwneud y gorau o dechnolegau Diwydiant 4.0 a’u galluoedd digidol sy’n tyfu’n barhaus i helpu i ddatrys y problemau penodol sy’n wynebu pob cwmni.

Gwelliant parhaus trwy weithgynhyrchu darbodus

Yn ail argraffiad ei waith arloesol The Toyota Way, mae Dr Jeffrey Liker yn trafod y cysyniad o system gynhyrchu ‘ddarbodus’ yn yr oes ddigidol. Mae gweithgynhyrchu darbodus yn golygu dileu gwastraff a sicrhau bod pob elfen o’r broses gynhyrchu yn effeithlon, gan sicrhau’r gwerth mwyaf posibl a chynyddu cystadleurwydd i fusnesau a’u cwsmeriaid.

Er mwyn cyflawni model cynhyrchu gwirioneddol ddarbodus, mae’n bwysig i gwmnïau gefnogi eu pobl i ddysgu’r sgiliau a’r prosesau sy’n ofynnol i harneisio technolegau newydd yn effeithiol. Er bod gan dechnolegau datblygedig y potensial i gynyddu cynhyrchiant ac effeithiolrwydd, rhaid arfogi pobl yn eich tîm â sgiliau a rhaid i hyfforddiant perthnasol fod yn flaenoriaeth.

Heb wybodaeth sylfaenol o’r egwyddorion y tu ôl i dechnolegau Diwydiant 4.0, gall gweithgynhyrchwyr weithredu systemau aneffeithlon yn y pen draw, neu’n syml fuddsoddi mewn offer nad ydyn nhw’n addas i’w hanghenion.

Dyma pam mae ein rhaglen MADE Cymru yn defnyddio dull pobl yn gyntaf, gan uwchsgilio unigolion ag egwyddorion a dulliau y gallant eu cymhwyso i amrywiaeth o sefyllfaoedd gweithgynhyrchu er budd eu cyflogwyr. Yn wir, fel y mae Liker yn ei roi yn The Toyota Way, pobl sydd wrth wraidd teithiau gwella parhaus cynaliadwy: ond heb gyfraniadau unigol gan dîm medrus, bydd y technolegau yr ydym yn buddsoddi ynddynt yn methu â chynhyrchu’r canlyniadau sydd eu hangen arnom.

Darbodus yn gyntaf, yna digidol

Gall fod yn demtasiwn tybio y bydd offer digidol yn darparu’r holl atebion sydd eu hangen arnom i redeg busnesau effeithlon a chystadleuol. Fodd bynnag, gall defnyddio technolegau clyfar heb bwrpas diffiniedig arwain at wastraff digidol yn y pen draw. Efallai y bydd hyd yn oed yn arwain cwmnïau i fesur y pethau anghywir wrth weithgynhyrchu, gan arwain at ddata drud na fyddai o bosibl yn dod â gwerth.

Felly sut allwn ni harneisio technolegau Diwydiant 4.0 yn effeithiol, mesur y pethau iawn yn effeithlon ac ychwanegu gwerth go iawn at y data rydyn ni’n ei gasglu? Trwy feddwl darbodus yn gyntaf, yna digidol.

Gellir arsylwi ar enghraifft o’r dull hwn yn ymarferol trwy boblogrwydd cynyddol technoleg ‘gefell digidol’. Mae gefeilliaid digidol (digital twins) yn cynnwys meddalwedd a all ddarparu mewnwelediadau a phenderfyniadau yn seiliedig ar yr hyn a fydd yn digwydd ar linell gynhyrchu. Mae cwmnïau yn aml yn rhy gyflym i fuddsoddi mewn technolegau gefell digidol heb ddeall yn gyntaf yr egwyddorion y tu ôl iddynt, gan arwain at wastraff a chost ddiangen.

Dull gwell fyddai arbrofi gyda thechnolegau ‘model digidol’ neu ‘gysgod digidol’ llai datblygedig a mwy fforddiadwy. Mae technolegau o’r fath yn caniatáu i dimau fynd i’r afael â’r problemau y mae’n rhaid eu goresgyn wrth weithgynhyrchu, cyn datblygu gefell digidol mwy datblygedig yn seiliedig ar eu hanghenion penodol.

Trwy ddechrau gyda modelau digidol symlach, bydd timau’n cronni’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i nodi gwastraff posib yn gyflym, gan ddechrau prosiect gwella parhaus sy’n ychwanegu gwerth i’r sefydliad cyfan. Hynny yw, trwy ddechrau yn ddarbodus a chaniatáu i’r bobl yn eich sefydliad ddysgu prosesau a thechnolegau newydd yn organig, bydd eich tîm yn naturiol yn dechrau archwilio datrysiadau digidol sy’n gwneud synnwyr busnes go iawn.

Dylai unrhyw daith gwella barhaus gyda Diwydiant 4.0 ddechrau gyda rhai camau cychwynnol i uwchsgilio’ch gweithlu. Mae rhaglen MADE Cymru UWTSD (cyfres o brosiectau a ariennir gan yr UE a gefnogir gan Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi Ewropeaidd trwy Lywodraeth Cymru ac a ddarperir gan Brifysgol Cymru Drindod Dewi Sant) yn cynnig dull unigryw a chymhwysol tuag at hyfforddiant Diwydiant 4.0. Mae ein cyrsiau a’n modiwlau yn darparu dull cefnogol o ddysgu am ddulliau ac egwyddorion gweithgynhyrchu, gan arwain at werth cynyddol i’ch cwsmeriaid.

I ddarganfod mwy am ein cyrsiau hyblyg, wedi’u hariannu’n llawn, ffoniwch 01792 481199, anfonwch e-bost at [email protected]