Nid yw Arloesi Gweithgynhyrchu Ar Gyfer Enwau Mawr y Diwydiant yn Unig

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae Luca Pagano yn Uwch Beiriannydd Ymchwil yn y Prosiect MADE – cyfres o brosiectau a gyllidir gan Ewrop, a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (UWTSD) trwy ei Chanolfan Ymchwil ar gyfer Gweithgynhyrchu Swp Uwch (CBM). Mae’n dweud wrth Newyddion Busnes Cymru sut y gall gweithgynhyrchu atodol sicrhau effeithlonrwydd dylunio pwysig. 

Mae cynnydd canolfannau arloesi rhagoriaeth wedi bod yn un o’r straeon pwysicaf i ddod i’r amlwg ym maes gweithgynhyrchu modern yn y DU, ag enwau mawr ym maes diwydiant yn creu rhwymau agosach fyth â’r byd academaidd mewn hybiau daearyddol canolog, er mwyn creu stryd ddwyffordd ffrwythlon o feddwl creadigol, syniadaeth a datblygiad technolegol. 

Mae’n fodel sydd wedi canfod ei draed yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda safleoedd newydd yn blodeuo yn Strathclyde, Boscombe Down, Derby, Blaenau Gwent, Samlesburya mannau poeth gweithgynhyrchu eraill, sy’n gyrru maes gweithgynhyrchu’r DU i reng flaen datblygiad technolegol.

Er bod cwmnïau pwysig ym maes diwydiant megis Rolls Royce, BAE Systems, Boeing a Bombardier yn aelodau llawn o’r byd newydd dewr hwn a’r mewnwelediadau, y cyfleoedd a’r cynnydd a ddaw yn ei sgil, mae’n bwysig nad yw gweithgynhyrchwyr llai yn cael eu hanghofio. Mae’r esblygiadau technolegol sy’n dod i’r amlwg o’r canolfannau rhagoriaeth hyn ar gael i bob rhan o ddiwydiant – â llawer o fuddion sylfaenol i’w cael.

Ymhell cyn i’r chwyldro diwydiannol ddechrau, mae gweithgynhyrchwyr wedi wynebu trindod cyfarwydd o bwysau – cynyddu cynhyrchiant, gwella ansawdd eu cynnyrch a lleihau eu costau. Mae’n debygol bod y drindod dragwyddol hon o alwadau yn pwyso cymaint ar saer olwynion neu grydd o’r 18fedGanrif ag y mae heddiw ar weithgynhyrchydd yr i-Phone. 

Fodd bynnag, rydym yn gweithredu mewn oes pan yw gweithgynhyrchwyr yn gwneud  newidiadau esblygiadol mawr, â chymorth technolegau a all newid y sefyllfa’n fawr. Er enghraifft, 

mae gweithgynhyrchu atodol yn caniatáu i beirianwyr weithgynhyrchu cydrannau â chymarebau sythder i bwysau rhyfeddol, ac â geometregau na ellir eu cyflawni mewn unrhyw ffordd â phrosesau gweithgynhyrchu confensiynol megis melino, troi a chastio. 

Mae hyn yn golygu mwy o effeithlonrwydd, a gyflenwir trwy gydrannau sydd yn ysgafnach, yn gryfach ac sy’n bwrpasol. Ystyriwch yr enghraifft hon, er ei bod yn un seml, ddamcaniaethol: 

·      Fe allem gymhwyso dulliau gweithgynhyrchu atodol at weithgynhyrchu cydran awyren, er mwyn sicrhau gostyngiad o un y cant o fàs awyren i deithwyr. Gallai’r gydran hon fod yn unrhyw beth o’r bwcl gwregys diogelwch, y sedd ei hun neu elfennau’r ffrâm awyr. Byddai gostyngiad o un y cant o ran màs yn golygu bod un y cant o’r tanwydd yn cael ei arbed. 

·      Gadewch i ni dybio bod y daith awyren gyfartalog, o’r DU i Sbaen, yn defnyddio oddeutu 6,000cg o danwydd ar gyfer pob taith, felly byddai un y cant yn golygu arbediad tanwydd o 60cg.

·      Os ystyriwn fod disgwyl i awyren o’r fath gwblhau oddeutu 50,000 o deithiau cyn ymddeol, mae’r un y cant hwn yn cyfateb i 3,000 tunnell o danwydd a arbedir yn ystod oes yr awyren. 

·      O fewn blwyddyn mae 35 miliwn o hediadau ledled y byd. Felly, gan ddefnyddio ein mesur arbed tanwydd o un y cant, byddai cyfanswm byd-eang y tanwydd a arbedir, ar 60cg yr hediad, yn golygu 210,0000 tunnell o danwydd. 

·      Gallai hyn olygu arbed mwy nag £1biliwn y flwyddyn.

Wrth gwrs, gellir cymhwyso’r egwyddorion syml hyn, sef lleihau pwysau er mwyn torri’r defnydd o danwydd, i unrhyw fodd cludo, gan gynnwys fflydoedd modurol. Mae effeithlonrwydd yn ysgogi cwmnïau rhyngwladol, sy’n wynebu pwysau ychwanegol gan awdurdodau rheoleiddio â llygad ar allyriadau.

Yn MADE rydym yn cefnogi gweithgynhyrchwyr i edrych ar eu dulliau a phrosesau cynhyrchu eu hunain, er mwyn gweld lle gallant elwa o’r technolegau a’r technegau datblygedig, er budd eu cwmni a’u gweithlu.

Mae strategaeth weithgynhyrchu lwyddiannus ar gyfer BBaChau wedi’i gysylltu’n agos iawn â buddsoddi mewn datblygu cymwyseddau uwch er mwyn cyrraedd manteision cystadleuol. Mae’r angen hwn i ddatblygu’n bresennol drwy’r amser; Mewn amgylchedd technolegol ddeinamig mae’n rhaid i BBaChau ddiweddaru a mireinio eu technoleg a’u cynhyrchion er mwyn cynnal eu cystadleurwydd. Mewn marchnad fwy gelyniaethus mae’n rhaid i BBaChau lynu wrth yr un egwyddorion yn union, sef mireinio a hyrwyddo cyson, er mwyn parhau i fod yn gystadleuol, pan yw dewis eang o gyflenwyr gan eu cwsmeriaid. 

Y maen tramgwydd mwyaf cyffredin i fabwysiadu technolegau uwch, wrth gwrs, yw anfodlonrwydd i fuddsoddi. Ond mae rhwystr mwy cynnil, cyffredin hefyd – y gred ein bod ‘bob amser wedi gwneud pethau fel hyn ac y byddwn ni bob amser yn gwneud pethau fel hyn.’ 

Mae’r ddau’n cyflwyno hunanfoddhad peryglus. Mae astudiaethau diwydiant yn dangos mai cysylltiadau cryf rhwng gweithgynhyrchwyr a chyflenwyr technoleg uwch yw’r elfen allanol allweddol sy’n cael effaith benderfynol ar dynged mabwysiadu technoleg. Dyma pam rydym wedi bod yn falch o fod mewn sefyllfa mor dda i gefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru sy’n gwneud addasiadau allweddol i’w gweithrediadau. Mae carfan Peirianneg Dylunio Datblygedig tîm MADE mewn sefyllfa i weithio â gweithgynhyrchwyr Cymreig cymwys i gynnal dadansoddiad anghenion pwrpasol, er mwyn creu prosiect ymchwil peilot i dreialu technolegau newydd am eu hyfywedd, ac i gynorthwyo gweithgynhyrchwyr i fabwysiadu newid gweithredol ystyrlon. 

Mae’r agwedd Peirianneg Dylunio Datblygedig (ADE)  ar MADE ar gael i fusnesau cymwys heb unrhyw gost iddynt, a chefnogir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://made.wales/