Gweithgynhyrchu yng Nghymru: Mae problemau yn hanfodol ar gyfer trawsnewidiad digidol

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Daryl Powell, Prif Wyddonydd ac awdur syniadaeth Ddarbodus sydd wedi ennill gwobrau, SINTEF Manufacturing a Phrifysgol Gwyddoniaeth a Thechnoleg Norwy

Yn 2005, roeddwn yn fyfyriwr ifanc ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Abertawe eisiau dysgu am rywbeth a elwir yn Weithgynhyrchu Darbodus. Mae llawer wedi newid ers y dyddiau hynny. Mae’n sioc bod cymaint ohonom yn meddwl mai’r ateb newydd i unrhyw broblem yw troi’n ddigidol – hyn yw un o’r prif heriau rydym yn eu hwynebu wrth gyfarfod â sefydliadau. Mae troi’n ddigidol yn gysyniad gwych ac atyniadol iawn, ac mae llawer dan yr argraff bod yn rhaid ei wneud gan fod eu cystadleuwyr wrthi’n gwneud hynny.

Mae bod yn ddarbodus yn golygu ystyried yn ddwys

Pan rydym yn sôn am fod yn ddarbodus cyn troi’n ddigidol, y brif neges rwy’n ceisio’i chyfleu yw bod Darbodus yn golygu ystyried yn ddwys. Mae’n anffodus bod TPS yn sefyll am Toyota Production System oherwydd buasai’n well pe bai’n golygu ‘Thinking People System’. Mae’n system addysgiadol gyda’r diben o greu awyrgylch gwaith ar draws y sefydliad cyfan i annog pawb i ymgymryd mewn heriau dysgu o bob maint, bob dydd. Dyma le mae gwir fan cychwyn digidoleiddio, gan ofyn y cwestiwn “pa broblemau ydyn ni’n trio eu datrys?” Mae bod yn ddarbodus yn ein harwain at Gemba. Bod yn ddarbodus yn gyntaf cyn digidoleiddio. Cadwch eich arian yn y banc – pan oeddwn i’n Hyrwyddwr Gwelliant Parhaus yn INA Bearings yn Llanelli, roedden ni wastad yn pwysleisio pwysigrwydd pwyso a mesur – defnyddio eich meddwl i’w ystyried [y broblem] cyn dechrau gwario eich arian, ac mae hynny’n bwysig. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i ni gael swyddogion gweithredol ar y Gemba.

Llynedd, mi wnaethom dderbyn Gwobr Gyhoeddi Shingo am ‘The Lean Sensei’, ac roedd ysgrifennu’r llyfr hwnnw yn agoriad llygaid i mi i weld syniadaeth Ddarbodus fel system addysgiadol yn hytrach na system gynhyrchu. Dwi bellach wedi bod yn astudio ac yn arwain trawsnewidiadau darbodus ers dros 15 mlynedd a rhaid i mi gyfaddef, roedd yr 8 i 10 mlynedd gyntaf o hynny yn cael ei arwain yn gyfan gwbl o safbwynt rheoli gweithrediadau o fy safbwynt cul ynghylch bod yn ddarbodus – roedd gen i raglen rhagori weithredol nad oedd yn hyblyg ac a oedd yn cynnig yr un peth i bob sefydliad. Gall y math yma o raglenni fod yn dda ar gyfer dal i fyny â chystadleuwyr, ond beth sy’n bwysig yw’r modd yr ewch chi ati i ddefnyddio’r adnoddau i annog pawb i ymgymryd â’r prosiectau dysgu. Efallai y gwnewch chi ddarganfod bod defnyddio rhai o’r adnoddau digidol yn eich helpu i ddatblygu cyflwr y gweithrediad, ond ni ddylech ddigidoleiddio er mwyn digidoleiddio. Gall hynny ond arwain at beth rydyn ni’n ei alw’n wastraff digidol.

Gwastraff digidol

Mae pawb yn gyfarwydd gyda’r saith gwastraff traddodiadol sy’n gysylltiedig â syniadaeth Ddarbodus, ond wrth feddwl yn nhermau gwastraff digidol, gallwn nodi dau fath o wastraff. Gallwch gael gwastraff digidol actif – sy’n golygu dirywiad llwyr yn sgil digidoleiddio – ble mae sefydliadau yn digidoleiddio ar wib ac yn delio gyda’r canlyniadau annisgwyl na allan nhw eu hosgoi. Mae’r rhan fwyaf ohonom wedi gweld canlyniadau gweithrediad ERP sydd wedi methu yn y gorffennol. Gall ladd sefydliad. Y math arall o wastraff digidol yw cyfleoedd coll – felly pa gyfleoedd mae’r dechnoleg ddigidol yma’n ei greu ar ein cyfer fel ein bod yn medru cymryd y camau nesaf i elwa hyd yn oed mwy a bod yn fwy cynhyrchiol? I ddilyn y cyfleoedd hyn, mae’n rhaid i ni fynd i’r Gemba i edrych am arwyddion a symptomau o’r syndromau isorweddol – camdybiaethau am reoli. Beth yw’r math o gamfeddwl sy’n achosi’r canlyniadau anghywir o fewn sefydliadau?

Mae problemau yn hanfodol ar gyfer trawsnewidiad digidol

Mae bod yn ddarbodus yn syniad sy’n aml yn cael ei gamddeall ac am flynyddoedd lawer, pan oeddwn i ond yn darparu’r adnoddau a’r rhaglenni i sefydliadau, dim ond ambell i welliant roeddwn i’n ei weld mewn ansawdd ac amseroedd cynhyrchu. Mae gwir botensial y twf Darbodus ond yn cael ei wireddu pan rydym yn edrych arno o safbwynt dysgu. Mi wnaethon ni weithio gydag un cwmni yn Great Yarmouth a wnaeth gyflawni gwelliant cynhyrchiol o 400% dros 3 blynedd ond wrth edrych ar fod yn Ddarbodus ar draws y sefydliad cyfan – gan gynnwys peirianwyr, gwerthwyr, cyfrifwyr, a’r rheolwr cyffredinol yn y trawsnewidiad darbodus.

Mi wnaethon ni ddechrau defnyddio Microsoft Teams fel system gysylltu ar gyfer y sefydliad cyfan i rannu syniadau gyda’n gilydd ar sut i wella a chreu datrysiadau. Mae cysylltedd a diwydiant 4.0 yn ddau beth pwysig ar gyfer galluogi a sicrhau bod sefydliad yn fwy darbodus, ond mae cymaint o bethau eraill allwn ni ddechrau gweithio arnynt cyn troi at dechnoleg.

Beth mae llwyddiant yn ei olygu i’r sefydliad?

Mae’n rhaid i bobl fod yn awyddus i wybod mwy. Mae dealltwriaeth syml o beirianneg yn hanfodol. A’r hyn sy’n cael ei ddadlau bellach yw a yw darbodus yn air sydd wedi’i ddihysbyddu erbyn hyn! Beth rydym yn ceisio dweud yw nad yw hi byth yn rhy hwyr. Mae’r gobaith a ddaw gyda meddwl mewn ffordd ddarbodus a’i ymarfer yn dal i fod yn arwyddocaol. I ni, y cwestiwn allweddol yw beth mae llwyddiant yn ei olygu i’r sefydliad? Llai o wariant? Gwell ansawdd? Neu, ydych chi eisiau i’r sefydliad dyfu? Mae’r atebion ar gyfer y tair gweledigaeth yma’n wahanol iawn. Mae meddwl am beth mae llwyddiant yn ei olygu yn fan cychwyn da ar gyfer sefydliadau BBaCh a mawr.

Dylai bod yn ddarbodus fod yn hollbresennol. Mae’n rhywbeth i’w weithredu ar draws y sefydliad. Ni ddylai’r ffocws fod ar y ffatri yn unig. Mae angen iddo fod yn bresennol ar y top ac mae angen iddo fod yn bwysig i’r swyddogion gweithredol ac yn cael ei weithredu ganddynt hefyd. Mae mabwysiadu arferion gorau Toyota’n ddifeddwl yn ffôl, ond dyw mabwysiadu rhai o’r arferion craidd fel fframiau dysgu ddim. Peidiwch â rhuthro’n hurt i fod yn ddarbodus na digidoleiddio. Peidiwch â chreu efaill ddigidol oherwydd bod pawb arall wedi gwneud hynny’n barod.

I greu cynnyrch da, yn gyntaf mae’n rhaid creu pobl dda. Gallwch lunio casgliadau newydd o gynnyrch a defnyddio’r un gweithwyr drwy gael gwared ar wastraff a gweithio’n gyda’ch gilydd yn well – mae’r cwbl yn ymwneud â’r strategaeth twf. Allwch chi ddatrys problemau cwsmeriaid gyda’r un faint neu hyd yn oed llai o adnoddau?

Mae’r erthygl hon wedi ei chymryd o gyfres o weminarau mewn uwchgynhadledd diwydiant a gafodd ei gynnal dros dri diwrnod a drefnwyd gan MADE Cymru a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ym mis Mehefin 2021. Mae MADE Cymru yn fenter sy’n cael ei hariannu gan yr UE (drwy Lywodraeth Cymru) sy’n cynnig cefnogaeth ac yn rhoi hwb i wneuthurwyr yng Nghymru drwy ymchwil a datblygu yn ogystal â rhaglenni uwchsgilio. I ddarganfod mwy ewch i www.madecymru.co.uk neu e-bostiwch ein tîm ar [email protected]