Mae MADE Cymru yn recriwtio – chwilio am Ddarlithwyr ac Uwch Ddarlithwyr mewn Rheoli Arloesedd a Gweithgynhyrchu Uwch

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Cyfres o brosiectau a ariennir gan yr UE a ddarperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yw MADE Cymru. Mae hyn yn cynnig cyrsiau sydd wedi eu hachredu gan brifysgol a chynllun cymorth busnes dan arweiniad arbenigwyr i fusnesau (gweithgynhyrchwyr yn bennaf) yng Nghymru, i gyd â’r nod o helpu unigolion a sefydliadau i addasu i heriau ac Arloesedd a Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0.

Mae’r prosiect nodedig hwn yn galluogi gweithgynhyrchwyr Cymru i fanteisio ar y technolegau uwch diweddaraf ac yn helpu i sicrhau newid aflonyddgar i ddiwydiant cynhyrchu Cymru tra’n annog cydweithio a thwf i fusnesau yng Nghymru.

SErs lansio’r prosiect, rydym wedi dyblu nifer ein myfyrwyr ac rydym mewn sefyllfa lle rydym yn chwilio am Uwch Ddarlithwyr a Darlithwyr newydd i addysgu ar y cyrsiau Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 a/neu Rheoli Arloesedd. Mae pob un yn cael ei ddysgu ar-lein.

YouByddwch yn ymuno â thîm cyfeillgar ac angerddol o arbenigwyr ac academyddion o’r diwydiant – er ein bod wedi ein lleoli’n gorfforol ar gampws SA1 ger y glannau yn Abertawe, gallwch weithio o unrhyw le yng Nghymru. Yn ogystal ag addysgu, byddwch hefyd yn cael cyfle i gyfrannu at y prosiect yn ei gyfanrwydd – byddwch yn aelod allweddol o’r tîm.

Ac rydym yn hyblyg ynghylch a fyddai’n well gennych weithio amser llawn, rhan-amser neu’n ffracsiynol. Os oes gennych brofiad ac arbenigedd mewn technolegau Awtomeiddio, Roboteg neu Ddiwydiant 4.0 cysylltiedig, methodolegau Gwelliant Parhaus fel Chwe Sigma a Meddwl darbodus neu os oes gennych sgiliau ac arbenigedd mewn Rheoli Arloesedd, cysylltwch â ni.

YoBydd angen i chi fod â chymhwyster ôl-raddedig mewn maes perthnasol a byddai cymhwyster proffesiynol yn ddymunol. Bydd angen i chi hefyd fod â phrofiad amlwg o Ddiwydiant 4.0 a/neu Reoli Arloesedd yn ogystal ag addysgu, cyflwyno ac asesu mewn maes pwnc perthnasol, er ein bod yn croesawu ceisiadau gan rai â phrofiad diwydiannol a gallwn drafod y cyfleoedd i ddatblygu eich cymwysterau addysgu ym Mhrifysgol Cymru, Y Drindod Dewi Sant.

Mae angen profiad hefyd o gynnal dadansoddiad o fwlch sgiliau neu ddadansoddiad tebyg mewn lleoliad busnes a chynghori ar atebion priodol.

Noder: Bydd eich iaith gohebu yn cael ei phennu gan yr iaith rydych chi’n gwneud cais ynddi.

Rydym wedi llunio fideo byr am y rhaglen yma:

Cyfeiriadau swyddi swyddogol

Cyfeirnod y Swydd Wag: 50002
Darlithydd mewn Gweithgynhyrchu Uwch – 2 swydd ar gael

Cyfeirnod y Swydd Wag: 50003
Darlithydd mewn Rheoli Arloesedd

Cyfeirnod y Swydd Wag: 50004
Uwch Ddarlithydd mewn Gweithgynhyrchu Uwch

Cyfeirnod y Swydd Wag: 50005
Uwch Ddarlithydd mewn Rheoli Arloesedd

Os oes gennych unrhyw gwestiynau cychwynnol am y swydd yn y cyfamser, e-bostiwch [email protected]

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Mae wedi’i hariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.