MADE Cymru yn croesawu Alice de Casanove, Airbus Group unwaith eto

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Ddydd Gwener yma, bydd myfyrwyr MADE Cymru yn croesawu Alice de Casanove yn ôl am yr ail o’i dau gyfraniad i’r rhaglen Rheoli Arloesedd Rhyngwladol. Teitl y sgwrs ddydd Gwener yw “Rheoli Arloesedd ym Mhrif Wneuthurwr Awyrennau’r Byd”.

Mae cyrsiau arloesedd MADE Cymru yn annog myfyrwyr i lunio dyfodol newydd i’w sefydliadau gan ddefnyddio theori rheoli arloesedd. Mae’n ymwneud â chreu gwerth ac ystyried addasu ac esblygu’n barhaus. Mae Alice yn arloeswr blaenllaw yn y meddylfryd hwn.

Mae Alice yn gweithio i Airbus Gogledd America,  lle mae ei rôl yn cynnwys rheoli a datblygu diwylliant arloesi ar gyfer eu 4000 a mwy o weithwyr ledled UDA. O’i safle yn Washington mae’n meithrin ac yn hyrwyddo’r meddylfryd a fydd yn angenrheidiol ar gyfer busnesau’r cwmni yn y dyfodol.

Graddiodd Alice o Telecom Paristech gyda Gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth (deallusrwydd artiffisial a phrosesu signalau). Dechreuodd ei gyrfa mewn busnes newydd technoleg ddofn yn arbenigo mewn cryptograffeg a dysgu peirianyddol, cyn ymuno â Sagem Communications i reoli a datblygu gwerth eu portffolio arloesedd. Yna ymunodd Alice â Mobiclip, gan ddatblygu technolegau fideo a llwyfannau teledu dal i fyny ar gyfer dyfeisiau llaw (cymerwyd Mobiclip drosodd yn y pen draw gan Nintendo).

Yn 2018 cafodd ei henwebu’n ‘Arloeswraig y Flwyddyn’ (‘Woman Innovator of the Year’) gan l’Usine Nouvelleam ei phrosiect arloesi o fonitro cychod gwenyn drwy loerennau. Ar hyn o bryd mae Alice yn gorffen ei PhD – “The Relationships Between Large Corporations and Start-up Companies” gyda Université de Lorraine, Grand Est, Ffrainc.

Mae MADE Cymru yn cynnig cwrs Meistr Arloesedd Rhyngwladol neu gwrs Gwella Busnes byrrach gyda Rheoli Arloesedd (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7). Ardystir y rhain gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant  ac ar hyn o bryd maent yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer busnesau cymwys. Caiff yr holl gyrsiau eu darparu drwy ddysgu ar-lein cyfunol ac fe’u cynlluniwyd i fod yn hyblyg.

Llenwch y ffurflen GYSWLLT isod i gael mwy o wybodaeth.

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu gydweithredol ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.