MADE Cymru: Cefnogi iechyd meddwl yn y gwaith

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae’n bwysig ein bod yn mynd i’r afael â phwnc iechyd meddwl yn y gweithle. Gall gweithle cefnogol hybu iechyd meddwl, ac mae tystiolaeth gref bod gweithleoedd sydd â lefelau uchel o les meddyliol yn fwy cynhyrchiol. Mae Amanda Hughes yn gweithio ar brosiect MADE Cymru ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Hi yw’r man galw cyntaf i fyfyrwyr MADE Cymru ac mae ganddi 30 mlynedd o brofiad o weithio ym maes addysg uwch.

Yn ogystal â’i swydd o ddydd i ddydd yn y Brifysgol, mae’n eiriolwr brwd dros les yn y gweithle. Fe gawsom ni sgwrs gydag Amanda ar gampws SA1 Glannau Abertawe Y Drindod Dewi Sant a gofyn rhai cwestiynau iddi am iechyd meddwl.

Amanda, dywedwch wrthym sut y daethoch chi i fod â diddordeb mewn lles yn y gweithle

Er bod ymwybyddiaeth o iechyd meddwl yn cynyddu, rydyn ni’n dal i fyw mewn byd lle mae pobl yn poeni am gyfaddef y gallai fod angen rhywfaint o help arnyn nhw. Rydw i am helpu i greu diwylliant yn y gweithle lle gallwn fod yn ni ein hunain a siarad am ein gofidiau a’n pryderon.

IRydw i’n bersonol wedi dioddef problemau iechyd meddwl yn y gorffennol ar ôl dwy brofedigaeth dorcalonnus a oedd yn agos iawn at ei gilydd. Fe arweiniodd hyn at iechyd meddwl gwael ac roeddwn i’n teimlo’n unig iawn. A bod yn onest, fe wnes i daflu fy hun i mewn i waith a gwnes i ddim wir ddelio ag ef. Mewn gwirionedd, roeddwn i’n ei guddio ac yn dioddef yn dawel. Tua dwy flynedd yn ôl, fe wnes i gyrraedd pwynt isel a phenderfynu gwneud rhywbeth amdano unwaith ac am byth. Cefais rywfaint o gwnsela preifat nad oedd yn effeithiol iawn felly fe wnes o ofyn am help yn y gwaith a chael mynediad at gwnselydd gwych a wnaeth rannu rhai mecanweithiau ymdopi â mi. Allwch chi ddim dileu digwyddiadau trist yn eich gorffennol, ond gallwch ddod o hyd i ffyrdd gwell o’u cario a’u prosesu nhw. Rydw i am helpu eraill i ddod o hyd i’w llwybr at gyflwr lles mwy heddychlon.

Yn ogystal â’ch profiadau eich hun, ydych chi wedi cael unrhyw hyfforddiant?

Es i ar gwrs Cymorth Cyntaf ar gyfer Iechyd Meddwl yn ddiweddar, ac esboniodd hynny’r holl wahanol fathau o faterion iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta, straen, seicosis ac ati a sut i adnabod yr arwyddion a’r symptomau. Helpodd y cwrs i’m haddysgu am wahanol ffyrdd o fynd at bobl a sut i gynnig cymorth iddyn nhw. Fe wnaethon nhw rannu tactegau gyda ni ynglŷn â sut y gallwn annog pobl i fod yn agored ac i siarad.

Mae modd datrys rhai problemau drwy wneud newidiadau bach, ond mae hefyd yn hanfodol gwybod pryd i gyfeirio pobl at wasanaethau cymorth proffesiynol priodol. Er enghraifft, yn Y Drindod Dewi Sant, mae gennym dîm iechyd meddwl sy’n cynnwys cwnselwyr hyfforddedig. Rwy’n gweld fy rôl fel rhywun sy’n gallu helpu i adnabod arwyddion bod cydweithwyr a myfyrwyr yn ei chael hi’n anodd, rhoi cyngor a chyfeirio.

Sut mae hyn yn helpu’r myfyrwyr rydych chi’n siarad â nhw?

Fi yw’r pwynt cyswllt cyntaf i’r myfyrwyr ar gwrs MADE Cymru. A fi yw’r un fel arfer sy’n eu helpu gyda’r heriau a’r materion maen nhw’n eu hwynebu drwy gydol eu hastudiaethau. Mae’n debyg mai fi yw’r person hwnnw sy’n eu harwain, ac rwy’n ceisio bod mor gefnogol ag y gallaf. Mae gan lawer o’r myfyrwyr swyddi prysur, teuluoedd, a phwysau eraill fel cyfrifoldebau gofalu am rieni oedrannus. Mae’n bwysig nad yw astudio yn ychwanegu mwy o straen at eu bywydau.

Rwy’n defnyddio fy ngwybodaeth a’m profiad i’w helpu i reoli eu llwyth gwaith a chysylltu â’r darlithwyr i ddatrys unrhyw broblemau. Er enghraifft, roedd un myfyriwr yn ei chael hi’n anodd cydbwyso gwaith, teulu ac astudio, felly fe wnaethom dorri’r cwrs yn fodiwlau tameidiog ac roedd hynny’n llawer haws iddyn nhw ymdopi ag ef.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau y gallwch eu rhannu gyda ni i helpu i roi hwb i’n lles?

Oes. Dyma rai syniadau sydd wedi gweithio i mi – gobeithio y byddan nhw’n helpu rhywun arall:

  1. Datgysylltwch oddi wrth dechnoleg nawr ac yn y man. Diffoddwch negeseuon e-bost a chyfryngau cymdeithasol ar eich ffôn symudol. Cymerwch seibiant o’r cyfan. Mae cymaint o ffyrdd i bobl gysylltu â ni y dyddiau hyn, mae’n gallu bod yn llethol.
  2. Ymarfer corff. Mae hyn wedi bod yn achubiaeth i mi. Mae gen i hyfforddwr personol ac rwy’n cymryd rhan mewn sesiynau campfa rheolaidd. Mae hyn wedi rhoi cymaint o hwb i mi ac rwy’n teimlo’n anhygoel ar ôl pob sesiwn. Does dim rhaid iddo fod yn ymarfer corff egnïol – mae ioga neu gerdded ysgafn yr un mor fuddiol.
  3. Deiet. Mae’r hen ystrydeb honno ‘bwyta’n well i deimlo’n well’ yn wir. Rwy’n ymdrechu’n galed i fwyta deiet cytbwys sy’n rhoi hwb i’m meddwl a’m corff. Ceisiwch leihau faint o caffein rydych chi’n ei yfed gan y gall gormod arwain at symptomau straen.
  4. Ceisiwch leihau faint o alcohol rydych chi’n ei yfed. Rydyn ni i gyd yn hoffi diod bob hyn a hyn, ond mae’n hawdd ei gorwneud hi – a dydych chi byth yn teimlo’n wych drannoeth. Rheolwch yr hyn rydych chi’n ei yfed a chydnabod os ydych chi’n defnyddio alcohol i’ch cynnal.
  5. Gwaredwch ar negyddiaeth o’ch bywyd. Ceisiwch gadw draw oddi wrth bobl a sefyllfaoedd sy’n eich blino neu’n gwneud i chi deimlo’n ddrwg amdanoch chi’ch hun. Rwy’n gwybod y gall hyn fod yn anodd, ond os na allwch dynnu eich hun, ceisiwch egluro i’r person sut maen nhw’n gwneud i chi deimlo.
  6. Siaradwch. Byddwch chi’n synnu faint o bobl eraill sy’n agored â chi pan fyddwch yn rhannu eich problemau a’ch pryderon. Weithiau, gall siarad â rhywun rydych chi’n ymddiried wneud i chi deimlo ychydig yn well. Yn bwysicaf oll, pan fydd pethau’n teimlo’n llethol, gofynnwch am gymorth proffesiynol.

Diolch yn fawr am rannu eich profiadau gyda ni, Amanda. A oes unrhyw beth arall yr hoffech ei ychwanegu?

Dim ond nad ydych chi byth ar eich pen eich hun, ac rydw i wedi cynnwys rhai dolenni i grwpiau cymorth a all eich helpu.

UWTSD – Gwasanaethau Myfyrwyr
Myfyrwyr UWTSD – Togetherall (gwiriwch gyda gwasanaethau myfyrwyr am fynediad)
Mind Mind – yr elusen iechyd meddwl
Cruse Bereavement Support
SY Samariaid
Iechyd meddwl – GIG (www.nhs.uk)
Cymorth alcohol – GIG (www.nhs.uk)
Beat – Anhwylderau Bwyta
Sands | Elusen marw-enedigaethau a marwolaethau newyddanedigion
Meddwl.org – Cymorth iechyd meddwl Cymraeg