Myfyrwyr MADE Cymru yn elwa ar arbenigedd arloesi rhyngwladol

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Gan barhau â modiwl MADE Cymru Rheoli Arloesedd Rhyngwladol, bydd ffrind da iawn i’r darlithydd Alan Mumby – Nicolas Bry – yn ymuno â’r myfyrwyr ddydd Gwener yma, yn fyw o Baris. Nicolas oedd un o’r siaradwyr mwyaf amlwg mewn Cynhadledd Rheoli Arloesedd a fynychodd Alan yn gynharach eleni.

Mae Nicolas yn Weithredwr Arloesi Rhyngwladol, sy’n gweithio i Orange S.A., ac mae’n defnyddio’i wybodaeth a’i arbenigedd i ddarparu rhaglenni arloesi corfforaethol, a labordai arloesi. Ar hyn o bryd mae’n rhoi hwb i arloesedd gydag 20 gwlad Orange Africa gan ddod â datblygiadau arloesol i’r amlwg. Fel crewr yr Orange Start-ups Studio, mae Nicolas yn annog gweithwyr Orange i ymgysylltu fel intrapreneuriaid, gan ddod â’u syniadau’n fyw o fewn busnes Orange.

Yn 2016 dyfarnwyd gwobr ISPIM i Nicolas am reoli arloesedd – ac yn 2019 cyhoeddodd ei lyfr ‘The Intrapreneurs’ Factory, a practical guide to leveraging intrapreneurship for your company’.  

Meddai Alan Mumby, “Rwy’n credu bod ei ffocws ar ddatblygu intrepreneuriaeth gyda sefydliadau yn ddiddorol iawn ac yn cyd-fynd yn fawr â methodolegau rheoli arloesedd. Mae’r myfyrwyr yn edrych ymlaen yn fawr at wrando arno’n siarad.”

Mae MADE Cymru yn cynnig cwrs Meistr Arloesedd Rhyngwladol neu gwrs Gwella Busnes byrrach gyda Rheoli Arloesedd (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7). Ardystir y rhain gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ar hyn o bryd maent yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer busnesau cymwys. Caiff yr holl gyrsiau eu darparu drwy ddysgu ar-lein cyfunol ac fe’u cynlluniwyd i fod yn hyblyg.

Llenwch y ffurflen GYSWLLT isod i gael mwy o wybodaeth.

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.