MADE Cymru: Allan o gwmpas yng Nghaerdydd, Casnewydd a Glannau Dyfrdwy

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Rydyn ni wedi bod yn teithio ledled Cymru (a Birmingham) yn ystod yr wythnosau diwethaf. Mae wedi bod yn gyffrous i’r tîm gefnu ar Teams a Zoom a chyfarfod â gweithgynhyrchwyr Cymru yn bersonol.


Bydd tîm MADE Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant mewn dri ddigwyddiad y mis hwn felly os ydych chi’n bresennol, ewch draw i’n stondin a dywedwch helo. Dyfrdwy.

Dydd Mawrth 19 Hydref, 9am – 3pm
Autolink
Stadiwm Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, Caerdydd CF11 8AZ
Trefnir gan Fforwm Modurol Cymru (WAF). 
Cliciwch i gael mwy o wybodaeth am Autolink 2021.

Dydd Mercher 27 Hydref, 8am – 2pm
Arddangosfa Busnes Gogledd Cymru #NWBE21
Coleg Cambria, Ffordd Celstryn, Cei Connah, Glannau Dyfrdwy CH5 4BR
Trefnir gan Fforwm Busnes Glannau Dyfrdwy
Cliciwch i gael gwybodaeth am Arddangosfa Busnes Gogledd Cymru 2021.

Dydd Mercher 27 9am – 5pm a dydd Iau 28 Hydref 9am – 2pm
BlasCymru/TasteWales 2021
Canolfan Confensiwn Rhyngwladol Cymru (ICCW), Casnewydd NP18 1HQ
Dewch o hyd i ni ar stondin AMRC
Cliciwch i gael mwy o wybodaeth am BlasCymru 2021

Meddai Lisa Lucas, Rheolwr Cysylltiadau Diwydiannol yn MADE Cymru, “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â busnesau yn y ddau ddigwyddiad yma – allwch chi ddim curo siarad â phobl yn bersonol. Rydyn ni am ddangos i weithgynhyrchwyr ledled Cymru sut y gallwn ni gefnogi eu busnesau nhw. Mae cydweithio’n allweddol Rydyn ni eisoes yn gweithio gyda nifer fawr o sefydliadau ac yn cael effaith economaidd gadarnhaol – boed hynny drwy Ymchwil a datblygu neu drwy uwchsgilio. Dewch draw i siarad â ni i weld a allwn ni eich helpu.”

Anfonwch e-bost atom [email protected] os hoffech drefnu i gwrdd â ni yno.