MADE Cymru – Gweminar y Gwanwyn Cyfres 2021

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Fel rhan o ymrwymiad parhaus MADE Cymru i hybu diwydiant Cymru, rydym wedi trefnu 3 sesiwn flasu sy’n cael eu cyflwyno gan ein tîm o arbenigwyr.

Mae’n rhad ac am ddim i’w mynychu. Cofrestrwch ymlaen llaw drwy’r dolenni isod.


9:30-10:30, 21 Ebrill

Pwy ddylai gael mewnbwn i arloesedd yn ein cwmni?

Gan mai 21 Ebrill yw Diwrnod Creadigrwydd ac Arloesedd y Byd, roedd yn ymddangos yn briodol canolbwyntio gweminar heddiw ar arloesi mewn diwydiant.

Y peth cyntaf yw cydnabod bod rheoli arloesedd yn weithgaredd ‘ar draws cwmni’ i raddau helaeth; nid yw’n perthyn i unrhyw adran benodol – ac o bosibl mae gan bawb ran arwyddocaol i’w chwarae. Bydd y sesiwn hon yn ymdrin â’r effaith anhygoel y gall rheoli arloesedd ei chael ar fusnes a sut mae’r meddylfryd hwn yn berthnasol ar draws pob rôl a sector. Mae’r sesiwn o dan arweiniad Alan Mumby.


9:30 – 10:30, 19 Mai

A allai cyflwyno technolegau newydd fod yn broffidiol i fy musnes?

Defnyddir rhaglenni newydd ac arloesol ar gyfer prototeipio a chynhyrchu mewn sectorau fel y sector meddygol, awyrofod, modurol, dodrefn a gemwaith, ac maen nhw’n cael eu datblygu’n gyson. Dysgwch sut mae tîm ADE MADE Cymru yn gweithio gyda chwmnïau i ddadansoddi, dadrisgio a chreu cynhyrchion cymhleth, effeithlon a fyddai fel arall yn amhosibl gan ddefnyddio deunyddiau neu ddulliau traddodiadol fel melino a pheiriannu. Mae’r sesiwn o dan arweiniad Luca Pagano, Akash Gupta a Sam Minshell.


9:30-10:30, 26 Mai

Pwy/Beth yw eich Gefaill Digidol?

Mae’r datblygiadau mewn technoleg fodern yn cynnig llawer mwy o fanteision na mwy o effeithlonrwydd a’r cyflymder y gallai gweithrediadau ddigwydd. Mae defnyddio technoleg ddigidol i helpu i brototeipio cynhyrchion nid yn unig wedi gwella cyflymder cynhyrchu ond hefyd wedi lleihau gwastraff deunyddiau wrth arddangos y prototeipiau hyn. Mae ceisiadau diweddar wedi gweld defnydd o’r dechnoleg hon i weithredu’r Gefaill Digidol. Mae creu cynrychiolaeth ddigidol o gynnyrch yn ddefnyddiol a thrwy ddefnyddio technoleg synhwyrydd clyfar, gellir gwireddu mwy o fanteision, yn enwedig gyda monitro ac adborth amser real. Mae’r sesiwn o dan arweiniad Graham Howe a Jaymie Phillips.


MADE Cymru sy’n cynnal y gweminarau hyn, cyfres o raglenni a gynlluniwyd i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy ddefnyddio ymchwil a datblygu ac uwchsgilio cydweithredol. Fe’u hariannwyd yn Rhannol/fe’u hariannwyd yn Llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cyflwynir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.

Cysylltwch heddiw i ddarganfod sut y gall MADE Cymru helpu eich busnes chi. Ffoniwch 01792 481199, e-bostiwch [email protected]