Graddiodd y myfyrwyr MSc Rheoli Arloesedd Rhyngwladol cyntaf y mis hwn, ac aeth rhai o dîm MADE Cymru draw i’w llongyfarch
Beth yw rheoli arloesedd?
Mae arloesedd yn gweithredu fel grym ysgogol ar gyfer ymchwil a datblygu, dylunio, gweithgynhyrchu, marchnata a datblygu busnes. Datblygwyd y rhaglen MSc a’r cwrs byr i ddarparu myfyrwyr gyda dealltwriaeth gynhwysfawr o sut y gall y rheolaeth o arloesedd wneud gwahaniaeth i bobl, sefydliadau a chwsmeriaid.
Cawsom y cyfle i siarad â dau o’r graddedigion i ofyn iddynt sut roeddent yn teimlo am y Cwrs a sut mae wedi’u helpu yn eu gwaith.
Nick Parton, Uwch Beiriannydd Gyriad, BAE Systems:
Fe wnes i fwynhau’n fawr fy amser yn astudio MSc Rheoli Arloesedd Rhyngwladol MADE Cymru. Roedd y profiad a’r cysylltiadau â’r darlithwyr yn fantais enfawr oherwydd roeddem yn gallu siarad am faterion bywyd go iawn bob wythnos.
Gydag angerdd am arloesedd, roedd yn chwa o awyr iach i weld cymaint o gwmnïau’n cwestiynu eu strategaethau ac yn ysgogi gwelliant parhaus.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio yn BAE Systems lle mae prosiectau arloesedd newydd yn dechrau bwydo drwy’r busnes. Rwy’n gobeithio defnyddio’r wybodaeth rwyf wedi’i ddysgu dros y 24 mis diwethaf a bod yn aelod gweithgar o’r prosiect Ymchwil a Datblygu nesaf.
Rwy’n dal i ystyried parhau fy astudiaethau academaidd ac yn gobeithio dod o hyd i brosiect addas er mwyn efallai ennill PhD yn y dyfodol.
Diolch yn arbennig i’r holl ddarlithwyr, cyd-fyfyrwyr a’r holl staff cefndirol am wneud y cwrs yn un mor bleserus.
Rikki Thomas, Uwch Beiriannydd Gweithgynhyrchu/Rheolwr Cynnal a Chadw, CyDen Ltd:
Fy enw i yw Rikki Thomas, Uwch Beiriannydd Gweithgynhyrchu/Rheolwr Cynnal a Chadw yn CyDen Ltd Abertawe, a ni yw arweinwyr y farchnad mewn dyfeisiau tynnu gwallt cartref Golau Pwls Dwys. Ers gadael Cwmni Moduron Ford bron i dair blynedd yn ôl, mae fy rôl wedi fy ngweld yn tyfu gallu cynhyrchu’r cwmni’n esbonyddol i ateb y galw.
Roedd y cwrs MSc Rheoli Arloesedd Rhyngwladol yn graff, yn arloesol, ac yn hoff o gyflwyno llu o siaradwyr gwadd o bob rhan o’r byd, gyda phob un yn rhannu profiadau a gwybodaeth amhrisiadwy, a byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb.
Bydd y strwythur amrywiol a manylion y cwrs yn bendant yn gymorth i mi yn fy natblygiad o fewn y maes peirianneg.
Gydag arloesedd wrth galon y cwmni, yno y mae atyniad a boddhad fy rôl bresennol yn bodoli. Mae fy nyheadau ar gyfer y dyfodol yn cynnwys cwblhau’r cymhwyster Belt Ddu Chwe Sigma ac ennill Siarteriaeth, gyda’r amcan o gyrraedd y swydd Rheolwr Peirianneg rhyw ben yn y dyfodol agos.
Alan Mumby, Darlithydd Rheoli Arloesedd, MADE Cymru:
Teithiais i lawr i Abertawe i weld y myfyrwyr cyntaf i raddio’n derbyn eu MSc mewn Rheoli Arloesedd Rhyngwladol.
Diwrnod gwych i’r myfyrwyr. Dylent fod yn falch o’u cyflawniadau a ddeilliodd o’u gwaith caled a’u hymroddiad. I reolwyr a staff Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, byddwn i’n dweud y gallwch chi hefyd fod yn haeddiannol falch o’ch cyflawniadau. Mae’r rhaglen hon yn arloesol ynddi hi’i hun – ac mae’n symudiad mawr oddi wrth ddulliau traddodiadol o addysgu. Da iawn i bawb. Fi? Dwi’n falch iawn…
Astudiwch Reoli Arloesedd gyda MADE Cymru
Mae dal amser i gofrestru ar gyfer y cwrs byr Gwelliant Busnes gyda Rheoli Arloesedd. Ariennir hyn yn llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru a’i achredu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant. Mae’r cyllid ar gyfer ein holl gyrsiau’n gorffen yn 2023 felly peidiwch â cholli’r cyfle hwn.
Dysgwch am holl gyrsiau byr MADE Cymru yma (rydym yn cofrestru ar hyn o bryd ar gyfer mis Hydref):