Lansio MADE yng Ngogledd Cymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae Andrew Walker, o Ganolfan Gweithgareddau Arbrofol ac Arloesol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn trafod y momentwm sy’n datblygu ynghylch prosiect MADE. 

Mae tîm MADE ynfalch o fod wedi cyflwyno prosiect MADE (Gweithgynhyrchu ar gyfer Peirianneg Dylunio Uwch) yng Ngogledd Cymru.

Mae’r gyfres hon o brosiectau a ariennir gan yr UE, sy’n cael eu darparu gan Ganolfan Gweithgynhyrchu Arbrofol ac Arloesol Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS), eisoes yn denu diddordeb brwd ac yn ennill momentwm ymhlith gweithgynhyrchwyr yn Ne Cymru, ar ôl ei lansio yno ym mis Ebrill. Cynlluniwyd y rhaglen uchelgeisiol i gydweithio â busnesau bach a chanolig o fewn diwydiant i sicrhau bod eu gweithrediadau yn barod at ofynion y dyfodol, trwy uwchsgilio a thrwy fabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu uwch.

Ers ein lansiad yn Ne Cymru, rydym wedi cynnal a mynychu nifer o ddigwyddiadau diwydiant a busnes bywiog, a fynychwyd gan wneuthurwyr allweddol gan gynnwys Calsonic a Wall Colmonoy. Mae wedi bod yn nodedig ym mhob un o’r digwyddiadau hyn bod gweithgynhyrchwyr craff eisoes yn coleddu arloeseddau a syniadau’r dyfodol mewn ffordd bendant iawn.  Mae gweithgynhyrchwyr yn ymwybodol iawn o’r angen i barhau i foderneiddio ac adnewyddu eu prosesau, er mwyn symleiddio a mireinio eu gweithrediadau. 

Fodd bynnag, mae awydd go iawn yn bodoli am ragor o fewnwelediad, hyfforddiant a’r adnoddau sydd eu hangen er mwyn mabwysiadu’r genhedlaeth nesaf o dechnolegau aflonyddgar sy’n mynd i symud gweithgynhyrchu Cymru i gam nesaf ei esblygiad. Mae’n amlwg hefyd bod angen map ffordd ymarferol, strwythuredig a manwl iawn i helpu gweithgynhyrchwyr i wneud y newidiadau y mae angen iddynt eu gwneud, ac yn hanfodol, i’w helpu i sicrhau bod eu gweithlu cyfan yn cyd-deithio â hwy yn ystod y daith hon.   Wrth gwrs, mae’r broses hon yn cael ei chymhlethu ymhellach gan y ffaith bod gan bob busnes gweithgynhyrchu, ym mhob cam o’r cadwyni cyflenwi cymhleth a welwn yma yng Nghymru, eu DNA unigryw eu hunain, felly mae anghenion pob un ohonynt yn wahanol iawn.

Mae rhaglen MADE wedi cael ei theilwra’n ofalus i ymateb i’r heriau hyn.  Mae agwedd Peirianneg Dylunio Datblygedig (ADE) MADE ar gael i fusnesau cymwys heb unrhyw gost iddynt, a chefnogir y prosiect hwn gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

Fel rhan o hynny, bydd aelod o dîm ADE yn cydweithio â busnesau i ddadansoddi a deall eu prosesau busnes cyfredol ac i nodi a mapio ble gellid cyflwyno technolegau datblygedig arloesol yn ddefnyddiol. 

Ar ôl cytuno ar gynllun arfaethedig y prosiect cydweithredol, bydd prosiect ymchwil peilot yn profi’r technolegau hyn i fesur eu dichonoldeb yn y busnes. Gallai’r broses hon gynnwys gwneud gwelliannau wedi’u targedu i’r broses fusnes sefydledig, neu i gynhyrchion sy’n bodoli eisoes. Neu, efallai, nodi prosesau a chynhyrchion newydd, gan ddefnyddio technolegau newydd. Nod y cam olaf yw mabwysiadu’r dechnoleg newydd yn barhaol, er mwyn sicrhau newid ystyrlon, cynaliadwy. 

Mae agwedd Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0: Cymru  MADE yn cynnig hyfforddiant pwrpasol, sy’n arwain at ddyfarniad gan y Brifysgol, ac unwaith yn rhagor, bydd hynny’n seiliedig ar anghenion y cyflogwr gweithgynhyrchu.  Mae’r rhaglen hon wedi’i chefnogi gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy law Llywodraeth Cymru. Gan gyfuno dysgu o bell a sesiynau wyneb yn wyneb, bydd I4.0: Cymru yn arfogi aelodau’r tîm â sgiliau i helpu i lunio’r ymateb i I4: 0 o fewn cwmnïau unigol ac i reoli eu cyfleoedd gyrfaoedd eu hunain. 

Mae’r cyrsiau wedi’u cynllunio ar gyfer gweithwyr yng Nghymru i gefnogi eu hymgysylltiad â’r newid technolegol cyflym sy’n helpu i sbarduno twf busnes. Gall sefydliadau sy’n cyfranogi ddewis o ystod o fodiwlau Uwchraddedig, pob un wedi’i gynllunio i ddarparu gwell gwybodaeth dechnolegol, gan gynnwys asesiadau cadarn sy’n sicrhau buddion busnes ac economaidd pendant.

Gan ddefnyddio cysyniad Ystafell Ddysgu Rithwir arloesol, gall gweithwyr ddysgu yn fyw ac ar-lein, beth bynnag fo’u lleoliad. Cyflwynir rhaglenni trwy gyfrwng sesiynau byr, felly mae’n hawdd trefnu astudio o amgylch ymrwymiadau eraill. 

Bydd staff academaidd yn gweithio gyda gweithgynhyrchwyr i ddeall eu dyheadau ac i ddiffinio amcanion dysgu sy’n cyd-fynd â rhai’r sefydliad. Mae cyllid hael ar gyfer yr agwedd hon o’r hyfforddiant ar gael yn dibynnu ar faint y busnes.

Gan fynd â’r dysgu hwn gam ymhellach, bydd agwedd Gradd Meistr mewn Arloesi Rhyngwladol (IIM)  MADE yn cynnig dysgu ar lefel uwch, gan arwain at Radd Meistr gan y Brifysgol, a gyflwynir o bell, trwy’r Ystafell Dosbarth Rithwir ac wyneb yn wyneb. Mae’r prosiect hwn wedi’i gefnogi hefyd gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy law Llywodraeth Cymru.

Beth ddylwn ei wneud nesaf?

Ffoniwch ni i gael sgwrs, neu i drefnu ymweliad â thîm MADE, ar: 01792 481199 neu e-bostiwch ni yn [email protected]