Mae ein cwrs byr mewn Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd eisoes yn boblogaidd gyda nifer fawr o fyfyrwyr o wahanol swyddi a sectorau ledled Cymru. Ar hyn o bryd mae gennym fyfyrwyr o faes Marchnata, y Gyfraith, Cyllid, Gweithrediadau, Rheoli a hyd yn oed Fferyllydd.
Beth bynnag fo sector diwydiant eich cwmni, bydd llwyddiant a chynaliadwyedd unrhyw fusnes mentrus bob amser yn dibynnu ar ba mor arloesol ydych chi.
Mae 2022 yn amser da i gwmnïau o Gymru ailystyried, adolygu a diwygio eu strategaethau arloesi – mae cwmnïau sy’n methu â deall gwir ystyr arloesedd yn aml yn ei chael hi’n anodd dod â chynhyrchion a gwasanaethau newydd i’r farchnad.
Mae cwrs byr MADE Cymru yn rhoi rheoli arloesedd a datblygu cynnyrch newydd wrth wraidd yr addysgu. Mae myfyrwyr yn astudio dau fodiwl:
Cyflwyniad i Reoli Arloesedd

Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Mathau o reoli arloesedd
- Rheoli ansicrwydd a risg
- Heriau a rhwystrau
- Sbardunau busnes
- Sbardunau technoleg
- Mesur arloesedd
- Arloesi agored
Rheoli Datblygu Cynnyrch Newydd
Mae’r pynciau’n cynnwys:
- Strategaeth brand a chynnyrch
- Modelau busnes ar gyfer datblygu cynnyrch
- Rheoli ymchwil a datblygu
- Datblygu cynnyrch ar y cyd
- Economi gylchol
- Creu manyleb dylunio’r cynnyrch
Cyflwynir y cwrs mewn sesiynau wythnosol byr dros 32 wythnos. Mae wedi’i gynllunio i gyd-fynd ag amserlenni gwaith prysur a gallwch fynychu o unrhyw le (mae ar-lein). Mae ein darlithwyr i gyd yn arbenigwyr yn y diwydiant ac yn aml mae yna siaradwyr gwadd o bob cwr o’r byd.
Mae’r cwrs yn cael ei gyflwyno a’i ardystio gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, gyda chefnogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.
Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio ar gyfer dechrau ar 10 Mehefin.
CLICIWCH YMA am daflen cwrs ac e-bostiwch [email protected] i drefnu sgwrs gydag un o’r darlithwyr neu gallwn drafod cofrestru gyda chi. Gallwch gofrestru cymaint o weithwyr ag y dymunwch.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at glywed gennych chi.