Cyfweliad gyda Chydymaith Ymchwil newydd MADE Cymru: Andrew Killen

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Allwch chi ddweud wrthyf am eich taith addysgol?

Dechreuais fy astudiaethau am y tro cyntaf ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS) yn ôl yn 2011 pan gofrestrais ar y flwyddyn sylfaen Peirianneg Beiciau Modur. Ar ôl cwblhau’r flwyddyn sylfaen, symudais wedyn i’r BEng dair blynedd mewn Gradd Peirianneg Beiciau Modur. Cwblheais brosiect ymchwil ac edrychais ar ddyluniad mewnol a dadansoddiad elfennau cyfyngedig o beiriannau aml-silindr perfformiad uchel, gan gynnwys crancsiafftiau, rhodenni cyswllt a phistonau. Cynhaliais hefyd brofion nodweddion cylchrediad llif oerydd blociau a phen injan V8 ynghyd ag efelychiad CFD a datblygu cydberthynas dda rhwng efelychu a chanlyniadau ffotograffig cyflym.  

Yn fy mlwyddyn olaf o’r BEng, roeddwn yn ddiolchgar i ymestyn fy astudiaethau a pharhau i’r MEng. Fel arweinydd y prosiect, roeddwn yn gyfrifol am ddylunio a gweithgynhyrchu prototeip un silindr wedi’i israddio i roi hwb i injan gasoline GDI fel rhan o feic modur hybrid. Fy rôl dechnegol arbenigol yw dyluniad mecanyddol y strwythur cyflawn, gan gynnwys casys a phob rhan sy’n symud, gan gynnwys dadansoddiad manwl penodol i leihau ystumio tyllfedd. 

Mae hyfforddiant arbenigol yn y Drindod Dewi Sant, a mwynheais ddysgu am Ddylunio a Dadansoddi Peirianneg, Dylunio ar gyfer Gweithgynhyrchu, Dylunio Peiriannau Cysyniad a Gweithgynhyrchu Prototeip a Pherfformiad ac Allyriadau Peiriannau.

Beth wnaethoch chi nesaf?

Ar ôl gorffen fy astudiaethau yn Y Drindod Dewi Sant cefais fy nerbyn i EngD mewn metelau strwythurol ar gyfer tyrbinau nwy ym Mhrifysgol Abertawe, lle dechreuais ar ysgoloriaeth ddoethurol wedi’i hariannu’n llawn gan Rolls-Royce plc. Edrychais ar Ludded Cylchred Uchel ar aloiau awyrofod uwch drwy gyflwyno diffygion wyneb yn artiffisial gyda thechnoleg pelydr ïon â ffocws. Roedd fy ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar aloiau titaniwm uwch a’r berthynas rhwng diffygion wyneb a’r rhyngweithiadau microstrwythurol. Enillais gymwysterau proffesiynol ychwanegol hefyd yn ystod y rhaglen lle cwblheais hyfforddiant gwregys gwyrdd Lean Six Sigma ynghyd â’r ardystiad mewn dylunio â chymorth cyfrifiadur. 

Roedd yr EngD hefyd yn cynnwys modiwlau a addysgir wedi’u hachredu’n llawn lle astudiais ac ennill profiad mewn:

  • Goddefgarwch Difrod a Chodi Cydrannau: – edrych ar rannau tyrbinau nwy a chyfnodau gwasanaeth.  
  • Dylunio yn Erbyn Methiant Ymgripio: – edrych ar y mecanweithiau a’r amodau o fewn injan tyrbin nwy lle gallai rhyngweithiadau ymgripio fynd yn broblem. 
  • Profion Mecanyddol a Dadansoddi Data: – ar gyfer aloiau awyrofod sy’n edrych ar strategaethau profi a thechnegau dadansoddol. 
  • Cydberthyniadau Codi Uwch: – ar gyfer cydrannau sy’n destun amodau gweithredol eithafol. 
  • Buddsoddiad Ariannol mewn Peirianneg: – cynyddu dealltwriaeth o hyfywedd prosiectau penodol.  
  • Moeseg Peirianneg: – lle ysgrifennais bapur ar safonau allyriadau modurol. 
  • Aloiau Titaniwm ar gyfer Peirianneg Awyrofod: – astudio cynhyrchu a phrosesu gwahanol aloiau titaniwm a’r defnydd yn y diwydiant awyrofod. 
  • Tyrbinau Nwy Cyfannol: – lle’r oeddwn yn gwneud dyluniad damcaniaethol injan jet yn optimeiddio effeithlonrwydd thermodynamig. 
  • Electron Microsgopi: – hyfforddiant i weithredu sganio microsgopau electron. 
  • Trawsyriad Electron Diffreithiant: – lle cefais brofiad o ddefnyddio techneg deunydd uwch sy’n helpu i ddangos cyfeiriadedd crisialog aloiau awyrofod.

Allwch chi ddweud wrthyf am eich hanes gwaith?

Cyn astudio yn y Brifysgol, fe wnes i ddwy swydd anacademaidd. Yn y cyntaf, bûm yn gweithio fel is-gontractwr yng Ngorsaf Bŵer Didcot lle’r oeddwn yn ail-lenwi gwaith mewnol tyrau oerol i fodloni safonau amgylcheddol ynghyd â thasgau strwythurol eraill. Roeddwn hefyd yn gweithio fel adeiladwr hunangyflogedig lle byddwn yn adnewyddu hen eiddo i gleientiaid. Yn ystod y swyddi hyn, roeddwn bob amser yn teimlo bod rhywbeth ar goll, a dyma a’m gwthiodd i’r byd academaidd yn y pen draw. Er na chefais erioed foddhad swydd yn y rolau hyn, teimlaf fy mod wedi cael llawer o brofiad ymarferol sy’n hynod werthfawr yn y sector peirianneg.   

Beth yw eich prif feysydd diddordeb?

Yn broffesiynol, mae gennyf chwilfrydedd gwirioneddol am ddylunio mecanyddol a modelu cyfrifiadurol. Rwy’n ceisio edrych ar heriau peirianyddol o’r egwyddorion cyntaf ac rwyf wrth fy modd yn datrys problemau mecanyddol cymhleth. Mae gennyf gefndir cryf mewn dylunio a dewisais wneud ymchwil berthnasol i wella fy ngwybodaeth gyffredinol ymhellach fel peiriannydd. 

Croeso i MADE Cymru. Beth yw eich rôl a beth fyddwch chi’n ei wneud?

Daliodd MADE Cymru fy sylw mewn gwirionedd oherwydd y gwaith rhagorol sy’n cael ei wneud i wella gweithgynhyrchu yng Nghymru. Rwyf wedi bod yn dilyn hynt MADE Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol ac roeddwn yn adnabod Graham Howe a Luca Pagano o’m cyfnod yn astudio yn y Drindod Dewi Sant. Rwy’n teimlo bod MADE Cymru yn gwneud pethau gwych yma yng Nghymru ac roeddwn i wir eisiau bod yn rhan ohono. Mae gweithio fel rhan o dîm sy’n helpu busnesau lleol a’r bobl y tu ôl iddynt yn swydd ddelfrydol i mi. Byddaf yn helpu i ddarparu modelu a dylunio cyfrifiadurol ar gyfer problemau peirianneg gan gynnig fy mhrofiad i’r tîm pryd bynnag y gallaf.

Sut mae wedi bod hyd yn hyn?

Rwyf wedi bod wrth fy modd yma yn MADE hyd yn hyn, ac fe’m synnwyd yn fawr gan yr amrywiaeth o brosiectau yr ydym yn rhan ohonynt. Rwyf yn ffodus iawn o fod yn rhan o dîm mor wybodus a thalentogo bobl ac rwy’n llawn cyffro am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd. 

Beth ydych chi’n hoffi ei wneud yn eich amser rhydd (os cewch chi unrhyw amser rhydd!)?

Yn fy amser hamdden rwy’n hoffi pysgota plu gyda fy nheulu a’m ffrindiau, rwy’n aelod o glwb pysgota lleol ac yn treulio llawer o nosweithiau ar lan yr afon. Rwyf hefyd yn hoff iawn o gelfyddydau marmor ac yn hyfforddi Brasil Jiu-Jitsu lle rwy’n treulio fy nosweithiau’n ymarfer gyda fy mhlant yn Shane Price Grappling Abertawe.