Myfyrwyr arloesi yn edrych ymlaen at ddarllediad byw o India

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Ddydd Gwener yma, 4 Rhagfyr, bydd y Strategydd Arloesi Chaitrali Palande yn cyflwyno sgwrs o’r enw “Persbectif Arloesedd yn India” – yn fyw o Pune, India.

Wrth lunio rhestr ddymuniadau MADE Cymru o ddarlithwyr gwadd ar gyfer y modiwl Rheoli Arloesedd Rhyngwladol, gwyddai’r darlithydd Alan Mumby fod angen siaradwyr a oedd yn arbenigo mewn rheoli arloesedd a datblygu cynnyrch newydd – ond yr un mor bwysig, eu bod wedi’u lleoli yn rhanbarthau economaidd pwysig y byd.

Felly gallwch ddychmygu pa mor falch oedd y tîm pan ddaethant i wybod bod Chaitrali Palande, arbenigwr arloesi yn Pune India, ar gael ac yn hapus i ddod i rannu gyda’r myfyrwyr ar y ddau gwrs rheoli arloesedd.

Mae Cymru bob amser wedi bod â pherthynas sylweddol ag India – yn gymdeithasol, yn ddiwylliannol ac wrth gwrs o ran cysylltiadau busnes. Felly, i’r myfyrwyr yma ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae cael gwell dealltwriaeth o safbwynt India ar arloesi a datblygu cynnyrch newydd yn ddiddorol iawn ac yn strategol iawn.

Astudiodd Chaitrali am ei gradd mewn peirianneg ym Mhrifysgol glodfawr Savitribai Phule Pune, acyna symudodd ymlaen i gwblhau ei chwrs meistr mewn Arloesedd Amlddisgyblaethol ym Mhrifysgol Northumbria yn Newcastle, Lloegr.

Yn ystod ei hamser yn y DU ac wedi hynny ar ôl iddi ddychwelyd i India, mae Chaitrali wedi cymhwyso ei gwybodaeth arbenigol i effeithio ar nifer o gwmnïau a sefydliadau nodedig, fel; Virgin Money, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol (y DU), MultiChoice (De Affrica), Nedbank (De Affrica), UltraTech Cement, Azione (y DU), Renolit, Cymrodoriaeth Prif Weinidog Mahashtra, Sefydliad Percy Hedley a Weikfield Foods.

Mae’r myfyrwyr a’r darlithydd Alan Mumby yn edrych ymlaen at groesawu Chaitrali ac yn gwerthfawrogi’n fawr yr amser y mae’n ei gymryd i siarad â nhw.

Mae MADE Cymru yn cynnig cwrs Meistr Arloesedd Rhyngwladol neu gwrs Gwella Busnes byrrach gyda Rheoli Arloesedd (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7). Ardystir y rhain gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ar hyn o bryd maent yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer busnesau cymwys. Caiff yr holl gyrsiau eu darparu drwy ddysgu ar-lein cyfunol ac fe’u cynlluniwyd i fod yn hyblyg.

Llenwch y ffurflen GYSWLLT isod i gael mwy o wybodaeth.

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Mae wedi’i hariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.