Sut y gall gweithredu prosesau Diwydiant 4.0 helpu busnesau bach a chanolig i wella gweithgynhyrchu, i leihau costau, a chynyddu elw

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

O ran dyfodol gweithgynhyrchu, mae Diwydiant 4.0 yn faes allweddol y dylid canolbwyntio arno. Mae’n cynrychioli cyfle digyffelyb i adfywio gweithgynhyrchu yn y DU. Serch hynny, mae pryder nad yw gweithgynhyrchwyr yn sicr sut y bydd yn effeithio ar eu busnesau, neu os ydynt yn meddu ar yr adnoddau i fanteisio ar y dechnoleg (KPMG).Mae astudiaeth gan PwC yn dweud “Mae Diwydiant 4.0 yn barod i drawsnewid pa mor gystadleuol yw diwydiannau Ewropeaidd, gan ychwanegu €550,000,000,000 mewn refeniw dros gyfnod o bum mlynedd” (PwC).

Gwelodd arolwg gweithgynhyrchu 2018 MAKE (sefydliad y Gweithgynhyrchwyr) fod y canlynol ymysg y pethau sy’n rhwystro cwmnïau rhag mabwysiadu technolegau Diwydiant 4.0:

  • Diffyg sgiliau y gellid eu gweithredu o fewn y busnes
  • Diffyg dealltwriaeth o sut y gall y technolegau helpu’r busnes
  • Amharodrwydd i newid o fewn diwylliant busnes
  • Diffyg cyllid i fuddsoddi
  • Dim modd creu achos i gefnogi buddsoddiad
  • Ddim yn gwybod ble i fynd i gael gwybodaeth

Effaith Covid-19 ar weithredu technolegau Diwydiant 4.0

“Mae Covid-19 wedi cyflymu’r pedwerydd chwyldro diwydiannol (4iR) yn ogystal â newid ffyrdd o weithio yn sylfaenol, a hynny er daioni o bosibl. Mae’r wers yn amlwg. Os nad yw busnesau’n addasu i gynnwys technolegau digidol, byddant yn colli cyfleoedd ” (Marc Funnell yn y digwyddiad Make UK ‘How technology can improve resilience post Covid-19’. 14 Gorffennaf 2020. MAKE).

Sut y gall ADE helpu busnesau bach a chanolig i weithredu technolegau Mae gan ADE fynediad at dechnolegau Diwydiant 4.0, gan gynnwys arbenigedd ar sut i ddefnyddio’r dechnoleg a sut i ddarparu atebion trwy Ymchwil a Datblygu er mwyn datrys a gwella heriau ym maes gweithgynhyrchu.

Galluoedd a phrosesau gweithgynhyrchu uwch Ymchwil a Datblygu ADE

  • Dylunio ar gyfer Dulliau Gweithgynhyrchu Uwch – Ail-ddylunio cynnyrch ar gyfer gweithgynhyrchu ychwanegol uwch. 
  • Optimeiddio Topoleg/Defnyddio Dylunio Cynhyrchiol – Gellir optimeiddio rhannau i adeileddau organig ysgafn iawn. Gan arwain at ddyluniadau effeithlon iawn ac arbedion o ran costau.
  • Optimeiddio ar gyfer Gweithgynhyrchu Swp – Dethol deunyddiau, modelu cyfrifiannol, ac astudiaethau parametrig i optimeiddio cynhyrchu.
  • Dadansoddiad Strwythurol/Straen – Gellir defnyddio meddalwedd ddiweddaraf ANSYS i wneud dadansoddiad strwythurol i sicrhau bod cynnyrch yn ddiogel ac yn ddibynadwy.
  • Datblygu Cynnyrch o’r Dechrau i’r Diwedd – Gellir cymryd y cysyniad cychwynnol o’r lluniadau dylunio a’u troi’n brototeip gweithredol sy’n barod ar gyfer treialon prawf.
  • Sganio 3D/Peirianneg am yn ôl – Gellir sganio rhannau a chynulliadau o fewn goddefiadau mân i’r gwreiddiol, gan gynhyrchu ffeil CAD i’w defnyddio i beiriannu am yn ôl.
  • Toddi Pelydr Electron (EBM) Titaniwm Ti6Al4V – Mae’r broses EBM yn digwydd mewn gwactod ac ar dymheredd uchel, gan ddefnyddio powdr titaniwm Ti6Al4V. Mae hyn yn creu cynnyrch â llai o straen sydd â nodweddion gwell na deunydd wedi’i fwrw, yn gymharol i ddeunyddiau gyr.
  • Stereolithograffeg – Cynhyrchu modelau 3D cost-effeithiol ar raddfeydd canolig/mawr, gyda’r amseroedd arwain byrraf posibl. Defnyddir y deunydd adeiladu ardderchog, Somos Watershed XC Clear, sy’n dynwared ABS o ran ei nodweddion.
  • Technoleg Aml Jet HD – Cynhyrchu darnau hirhoedlog a chadarn o ansawdd uchel. Gellir gweithgynhyrchu geometregau a fyddai wedi bod yn amhosibl wrth ddefnyddio dulliau traddodiadol.
  • Bwrw mewn Gwactod – Mae Bwrw mewn Gwactod yn broses a ddefnyddir i gynhyrchu nifer o gydrannau o un model meistr, gyda deunyddiau sy’n dynwared sawl plastig cynhyrchu.

Manteision mabwysiadu’r technolegau hyn yw:

Arbed amser

  • Dim angen disgwyl am gyflenwyr
  • Prototeipio cyflym gan ddefnyddio argraffu 3D

Hybu cynhyrchiant

  • Peirianneg am yn ôl
  • Atebion wedi’u hoptimeiddio

Lleihau gwastraff a chostau

  • Defnyddio llai o ddeunyddiau o weithgynhyrchu ychwanegol
  • Costau trafnidiaeth is

Y gallu i ymateb i’r galw gan ddefnyddwyr yn effeithlon

  • Darparu atebion ar unwaith
  • Datrysiadau o fan eithaf y grefft

Mae MADE Cymru yn gyfres o dair rhaglen sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy wneud ymchwil a datblygu ar y cyd ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n Rhannol/Llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Rydym yn cynnig cyfle i fusnesau bach a chanolig ym maes gweithgynhyrchu ledled Cymru i gydweithio ag arbenigwyr i gael gafael ar dechnolegau, technegau, deunyddiau a sgiliau gweithgynhyrchu uwch er budd eu cwmni. Trwy gydweithio â busnesau rydym yn chwilio am ffyrdd newydd arloesol o ddatblygu a chynhyrchu cynnyrch newydd ac i ddarganfod a gweithredu prosesau newydd. 

Am ragor o wybodaeth am sut y gall MADE Cymru eich helpu i lywio eich busnes drwy Ddiwydiant 4.0, cysylltwch â ni isod.

Gan Sam Minshell, Swyddog Ymchwil, MADE Cymru