Sut all MADE Cymru helpu eich busnes? Cofrestrwch ar gyfer ein digwyddiadau Cwestiwn ac Ateb

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae MADE Cymru yn gyfres o dri phrosiect sydd wedi’u cynllunio i helpu busnesau yng Nghymru i fanteisio ar bŵer technolegau arloesol er mwyn hybu cynhyrchiant.

Yn gryno, y tri phrosiect yw:

Peirianneg Dylunio Uwch – cyfle i BBaCh ym maes gweithgynhyrchu yng Nghymru gydweithio ag arbenigwyr i gael gafael ar dechnolegau, technegau, deunyddiau a sgiliau gweithgynhyrchu uwch er budd eu cwmni. Mae ein tîm yn gweithio gyda busnesau i chwilio am ffyrdd newydd arloesol o ddatblygu a chynhyrchu cynhyrchion newydd ac i ddarganfod a gweithredu prosesau newydd.

Uwchsgilio ar gyfer y Diwydiant 4.0 – dewiswch rhwng fodiwlau byr neu weithio tuag at Radd Meistr. Drwy ddysgu cyfunol ar-lein, mae’n ceisio arfogi dysgwyr â sgiliau i wella cystadleurwydd, cael gafael ar dechnolegau newydd i wella cynhyrchion a phrosesau, cynyddu dealltwriaeth o sut i leihau gwastraff a chost.

Meistr Arloesi Rhyngwladol – dewiswch rhwng modiwlau byr neu weithio tuag at Radd Meistr. Drwy ddysgu cyfunol ar-lein mae’r cwrs gwirioneddol ryngwladol hwn yn addysgu pwysigrwydd bod yn gwmni arloesol a sut y gall hyn effeithio’n gadarnhaol ar gynaliadwyedd, cynhyrchiant ac elw. Mae’n ymdrin â phynciau fel rheoli arloesedd, gyrwyr technoleg busnes a datblygu cynnyrch.

Ar hyn o bryd, mae’r rhain i gyd yn cael eu HARIANNU’N LLAWN (ar gyfer busnesau cymwys) ac rydyn ni’n annog sefydliadau i ymrwymo er mwyn manteisio ar y cyfleoedd gwerthfawr hyn

Oherwydd yr ymateb cadarnhaol i’r prosiectau, mae tîm MADE Cymru wedi bod yn cynnal rhai sesiynau gwybodaeth ar-lein drwy Zoom i ateb cwestiynau a all fod gan sefydliadau am y tair rhaglen. Mae hefyd yn gyfle i gyfarfod â’r tîm.

Isod, ceir manylion am y ddau ddigwyddiad nesaf, gyda dolenni i gofrestru.

9:30am Awst 4
https://zoom.us/meeting/register/tJAuc6trDIiEtL92fWGWZWUrpNx26KgfUJE

9:30am Awst 19
https://zoom.us/meeting/register/tJckdmvqj4oGdFir5dRKTqWyB2j7WZOtnhR

Ar ôl cofrestru, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau sy’n cynnwys gwybodaeth am ymuno â’r cyfarfod.

Yn y cyfamser, gallwch e-bostio [email protected] am fwy o wybodaeth neu anfon cwestiwn aton ni y gallwn ei ateb yn y sesiwn/sesiynau.

Mae MADE Cymru yn gyfres o dair rhaglen a gynlluniwyd i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy ddatblygu sgiliau ymchwil cydweithredol ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n rhannol/yn llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.