Cyrsiau gweithgynhyrchu wedi’u hariannu’n llawn ar gyfer diwydiant Cymru, gan ddechrau ym mis Chwefror

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (drwy eu menter MADE Cymru) leoedd ar eu cyrsiau Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 a Rheoli Arloesedd sy’n dechrau 4 Chwefror.

Ac yn fwy na hynny, maen nhw newydd gael cadarnhad bod y cynnig sydd wedi’i ariannu’n llawn wedi’i ymestyn i gynnwys carfan mis Chwefror. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw gost ariannol i’r sefydliad neu’r myfyriwr (mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol). Dyma’r tro olaf i’r cyrsiau gael eu hariannu’n llawn.

Mae’r cyrsiau’n cael eu dysgu’n fyw ar-lein ar brynhawn dydd Gwener, maen nhw’n hyblyg iawn a gallwch ddewis rhwng opsiwn byr neu hir – i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith a chartref eich hun.

Mae myfyrwyr gwych o wahanol sectorau sydd eisoes yn astudio gyda ni. Ac mae’r adborth wedi bod yn anhygoel.

Meddai Andrew Williams o PerkinElmer, “Dydw i ddim yn gallu argymell MADE Cymru ddigon, rwy’n cael cymaint o hwyl gyda thiwtoriaid a myfyrwyr eraill wrth ddysgu – dwi ddim yn siŵr fy mod i fod! Mae mwy a mwy o fyfyrwyr yn ymuno drwy’r amser – tybed allai fod yn addas ar eich cyfer chi?” 

Straeon myfyrwyr

Jo Ashburner – Myfyriwr Rheoli Arloesedd MSc MADE Cymru

Sophia Watts – Melin Tregwynt, myfyriwr MSc Rheoli Arloesedd 

Nefyn Roberts – Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 MADE Cymru

Dyma’r cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig:

  • Tystysgrif Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 (40 credyd Lefel 5)
  • Tystysgrif Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0 (40 credyd Lefel 7)
  • MSc Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0 (Lefel 7) – opsiwn i astudio modiwlau unigol os dymunir
  • Tystysgrif Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd (40 credyd Lefel 6 neu 7, yn dibynnu ar gymhwysedd)
  • MSc Rheoli Arloesedd Rhyngwladol

Mae Amanda Hughes, Prif Swyddog Prosiect MADE Cymru yn cynnig cymorth i holl fyfyrwyr MADE Cymru ac yn eu helpu gydag unrhyw ymholiadau neu broblemau. Meddai, “Fi yw’r pwynt cyswllt cyntaf i’r myfyrwyr ar holl gyrsiau MADE Cymru ac rwy’n aml yn sgwrsio â nhw am sut mae’r cwrs yn mynd. Rwy’n synnu’n fawr at y ffordd y mae wedi grymuso rhai o’r myfyrwyr ac wedi rhyddhau gwir awydd i ddysgu a gwella. Y canlyniad annisgwyl arall fu myfyrwyr o wahanol sefydliadau yn gweithio ar brosiectau grŵp gyda’i gilydd ac rwy’n falch o weld bod hyn wedi arwain at gydweithio newydd y tu hwnt i’r cwrs. Dyma’r tro olaf i’r cynnig gael ei ariannu’n llawn, felly rwy’n gobeithio y bydd llawer mwy o weithgynhyrchwyr yng Nghymru yn manteisio drwy ymuno â charfan mis Chwefror.”

CLICIWCH YMA am daflen yn amlinellu’r cyrsiau, ond rhowch wybod i ni os hoffech drefnu sgwrs gydag un o’r tiwtoriaid neu os oes gennych unrhyw gwestiynau y gallwn helpu gyda nhw.  

Fe wnawn ni eich tywys drwy’r broses gofrestru. Edrych ymlaen at eich cofrestru!

Cysylltwch â ni ar 01792 481199 neu [email protected] i gael gwybod mwy. Neu llenwch y ffurflen gyswllt isod.

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Ariennir yn Rhannol/Llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop / Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Wedi’i ddarparu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.