O Gaerdydd i’r Almaen, Alan Mumby o MADE Cymru sy’n rhannu ei feddyliau ar siaradwyr gwadd yr wythnos hon

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Eoin Bailey, Rheolwr Arloesedd Celsa Steel UK Ltd, Caerdydd.

Yr wythnos hon, bydd Eoin Bailey, Rheolwr Arloesedd Celsa Steel UK Ltd, Caerdydd, yn ymuno â myfyrwyr sy’n astudio’r modiwl Cyflwyniad i Reoli Arloesedd. Mae’n bleser mawr cyflwyno ffrind da a chyn-gydweithiwr i mi i’n rhaglen Meistr Arloesedd.

Mae Eoin yn Ddylunydd, Peiriannydd ac Arweinydd Arloesedd profiadol, sydd ag angerdd dros ddatblygu busnes cynaliadwy a gweithredu arferion busnes adferol. Mae ei 20 mlynedd mewn diwydiant wedi rhoi’r gred ganlynol iddo: Mae meddwl mewn systemau ac ystyried cylch oes llawn unrhyw ddatblygiad yn caniatáu i sefydliadau ddatblygu strategaeth sy’n diogelu ffyniant a thwf cynaliadwy yn y dyfodol.

Bydd darlith Eoin yn tynnu sylw at y berthynas a’r synergedd sy’n bodoli rhwng yr economi gylchol ac arloesedd – a bydd yn canolbwyntio ar “Defnyddio i Adfywio: dealltwriaeth o hanes ein Heconomi Linol, ein heffeithiau, ein gwrthddywediadau a’r canlyniadau anfwriadol”.

Raghavendra Kulkarni, Robert Bosch GmbH, Yr Almaen

On the same day, students studying the International Innovation Management MSc will be Ar yr un diwrnod, bydd yr arbenigwr arloesedd, Raghavendra Kulkarni yn ymuno â myfyrwyr sy’n astudio’r MSc Rheoli Arloesedd Rhyngwladol yn fyw o Stuttgart. Mae llawer o bobl, gan fy nghynnwys i, wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at ymgysylltu â chyfrannwr byw gwadd ddydd Gwener, gan fod Raghavendra yn dod atom gyda chyfoeth o wybodaeth o ganlyniad i dros 18 mlynedd o brofiad byd-eang ym maes rheoli arloesedd a gweithgynhyrchu.

Yn ogystal â bod yn gyfrifol am arloesedd yng Nghanolfan Fusnes Bosch yn Stuttgart, mae Raghavendra hefyd yn gyfrifol am feithrin busnes digidol yr oes newydd gan ddefnyddio Blockchain, AI ac IoT. Dyma ddyn prysur iawn ac felly rydym yn falch iawn o fod yn ei groesawu’n rhithwir i Gymru.

Mae MADE Cymru yn cynnig cwrs Meistr Arloesedd Rhyngwladol neu gwrs Gwella Busnes byrrach gyda Rheoli Arloesedd (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7). Ardystir y rhain gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ar hyn o bryd maent yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer busnesau cymwys. Caiff yr holl gyrsiau eu darparu drwy ddysgu ar-lein cyfunol ac fe’u cynlluniwyd i fod yn hyblyg.

Llenwch y ffurflen GYSWLLT isod i gael mwy o wybodaeth.

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu gydweithredol ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.