‘Pecyn Adnoddau Diogelu Dyfodol eich Busnes’ am ddim i fusnesau

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Roedd tîm MADE Cymru am rannu adnodd ar-lein newydd a grëwyd gan dîm Arloesedd Llywodraeth Cymru. Nod Pecyn Adnoddau Diogelu Dyfodol eich Busnes yw helpu busnesau i gyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol drwy ymgorffori egwyddorion datblygu cynaliadwy, cydraddoldeb ac amrywiaeth a chefnogaeth i’r Gymraeg i’w dyheadau ar gyfer y dyfodol. Yn fyr, cyfrannu at wneud Cymru yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo a gwella cynaliadwyedd a ffyniant busnes yr un pryd.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn cydnabod yr angen i gydweithio i wynebu heriau newid yn yr hinsawdd, tlodi, anghydraddoldebau iechyd a swyddi a thwf. I roi ansawdd bywyd da i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol, caiff busnesau eu hannog i feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau.

Gan ddefnyddio’r pecyn, bydd cwmnïau’n asesu eu sefyllfa bresennol a chyda chymorth cysylltiadau ag adnoddau defnyddiol ac astudiaethau achos, yn nodi cyfleoedd i ddatblygu eu busnes ac yn ei wneud yn fwy gwydn ar gyfer newidiadau yn y dyfodol. Pan fydd cwmni’n cwblhau hyn, bydd yn gallu lawrlwytho adroddiad am ddim a chael ei gyfeirio’n awtomatig at gynghorwyr Adnoddau Dynol ac Adnoddau Effeithlon o fewn Busnes Cymru a fydd yn eu cefnogi i wneud unrhyw welliannau neu newidiadau a nodwyd. 

Er mwyn defnyddio’r pecyn cymorth bydd angen i ddefnyddwyr greu cyfrif Sign On Cymru sy’n rhoi mynediad i holl weithgareddau Busnes Cymru sydd wedi gofyn am gyfrineiriau yn y gorffennol. 

Byddem yn ddiolchgar pe gallech fewnbynnu ein Cod cyfeirio 81552 ar dudalen logio i mewn GDPR. Gellir defnyddio’r system heb y cyfeirnod hwn, ond mae’n ddefnyddiol i’r tîm yno weld bod y cyfeiriad wedi cyrraedd gan MADE Cymru.

CCliciwch yma i gael mynediad i’r pecyn

Mae’r pecyn cymorth wedi cael ei ddatblygu fel rhan o weithrediad Arloesedd SMART. Mae cynghorwyr Busnes Cymru yn rhan o ymgyrch cymorth BBaCh – Busnes Cymru.  Ariennir y ddau weithrediad gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Mae MADE Cymru yn gyfres o dair rhaglen sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu ar y cyd ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n rhannol/yn llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.