Cyfarchion y tymor oddi wrth MADE Cymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Does dim gwadu bod 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol – i dîm MADE Cymru, y gweithgynhyrchwyr rydyn ni’n gweithio gyda nhw a’r busnesau rydyn ni’n cydweithio â nhw. Gyda golau ym mhen draw’r twnnel (o’r diwedd), rydyn ni’n teimlo’n gadarnhaol ynglŷn â’r hyn a ddaw yn y dyfodol a sut y gallwn helpu i hybu dyfodol economaidd gweithgynhyrchu yng Nghymru.

Yn lle parti Nadolig gwaith, cynhaliodd rhai o dîm MADE Cymru gwis Nadoligaidd rhithwir i godi arian i Age Connects Wales. Menter gymdeithasol gyda dros 40 mlynedd o brofiad yn cefnogi pobl hŷn a’u gofalwyr yng Nghymru. Eu nod yw rhoi’r cymorth, y gefnogaeth a’r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl 50+ oed yng Nghymru i fyw bywyd iachach, mwy egnïol ac annibynnol. Mae llawer o sylw wedi’i roi i effaith greulon y coronafeirws ar bobl hŷn, ac nid yw llawer o sefydliadau sy’n cynnig cymorth wedi gallu codi arian fel y byddent fel arfer.

Cododd Cwis Nadolig MADE Cymru dros £150 i’r sefydliad a’r gobaith yw y bydd hyn yn helpu Age Connects Wales dros gyfnod y Nadolig.

Hoffem hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.

Byddwn yn ôl ar 4 Ionawr ac rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu carfan newydd o fyfyrwyr ar ein cyrsiau Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 a Rheoli Arloesedd (mae lleoedd ar gael o hyd ar gyfer dechrau ar 5 Chwefror) a dechrau mentrau Ymchwil a Datblygu cydweithredol newydd gyda gweithgynhyrchwyr Cymru.

Fel arfer, gallwch gysylltu â ni drwy’r ffurflen isod neu 01792 481199, [email protected]