Mae MADE Cymru a’r Drindod Dewi Sant yn eich gwahodd i weminar rhad ac am ddim gyda Jessica Leigh Jones MBE

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Intrapreneuriaeth: Oes newydd ar gyfer arloesi

6pm – 7:30pm, dydd Mawrth 17 Awst

Mae’r pandemig byd-eang wedi tarfu ar y ffordd yr ydym yn byw ac yn gweithio. Mae wedi datgelu a gwaethygu’r gagendor digidol ac wedi llwyr newid cyfansoddiad ein heconomi. Tra bo sawl sefydliad wedi ei gweld hi’n anodd ymdopi â’r her o addasu i ffyrdd newydd o weithio, mae rhai eraill wedi manteisio ar y cyfle i ail-greu eu hunain. Mae intrapreneuriaeth yn cynnig mecanwaith i fusnesau fuddsoddi mewn arloesi a datblygu gallu’r sefydliad. Yn ystod y cyflwyniad, byddwn ni’n rhannu’r elfennau allweddol sydd eu hangen i feithrin diwylliant creadigol intrapreneuraidd, gan amlinellu’r rôl sydd gan reoli i sicrhau llwyddiant intrapreneuriaeth.

Mae Jessica Leigh Jones yn Beiriannydd ac yn Astroffisegydd sydd wedi ennill sawl gwobr. Hi yw Cyd-sefydlydd a Phrif Weithredwr iungo Solutions, busnes CareerTech newydd sy’n democrateiddio mynediad at yrfaoedd disglair i bawb. Mae Jessica yn Gadeirydd Y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (CDPS) ac yn Is-gadeirydd WJEC CBAC. Mae hi hefyd yn Athro Gwadd yn yr Academi Peirianneg Frenhinol ac yn Entrepreneur Preswyl y Gymdeithas Frenhinol ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Yma, mae hi’n arwain Rhaglen Peirianwyr Mentrus ar gyfer myfyrwyr peirianneg israddedig a phrentisiaid peirianneg. Mae Jessica yn arbennigo mewn dylunio sefydliadol, rheoli talent, a menter mewn addysg.

I ymuno yn y weminar Zoom, cofrestrwch yma o flaen llaw:

https://us06web.zoom.us/meeting/register/tZIvce-qqjoiH9XSbpcFddVYseYVAsn12o14