Cofrestrwch nawr! Cyrsiau Diwydiant 4.0 neu Reoli Arloesedd a ariennir yn llawn

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Rydyn ni’n hynod brysur yn cofrestru myfyrwyr ar gyfer ein cyrsiau Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 a Rheoli Arloesedd fydd yn dechrau ar 10 Mehefin.

Rydyn ni’n gwybod pa mor anodd yw jyglo gwaith, astudio a bywyd cartref, a dyna pam mae tîm cyfan o bobl gyfeillgar i’ch cefnogi drwy eich astudiaethau.

Mae’r cyrsiau’n cael eu dysgu’n fyw ac ar-lein ar brynhawn dydd Gwener, maen nhw’n hyblyg iawn a gallwch ddewis rhwng opsiwn byr neu hir – i gyd-fynd â’ch ymrwymiadau gwaith a chartref eich hun.

Mae myfyrwyr gwych o wahanol sectorau sydd eisoes yn astudio gyda ni. Ac mae’r adborth wedi bod yn anhygoel. Cofrestrwch gymaint o weithwyr ag y dymunwch.

Rydyn ni newydd gael cadarnhad bod y cynnig sydd wedi’i ariannu’n llawn wedi’i ymestyn i gynnwys carfan mis Mehefin. Mae hyn yn golygu nad oes unrhyw gost ariannol i’r sefydliad neu’r myfyriwr (mae meini prawf cymhwysedd yn berthnasol).

Anfonwch neges atom am fwy o wybodaeth.

Dyma’r cyrsiau rydyn ni’n eu cynnig:

  • Tystysgrif Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 (40 credyd Lefel 5)
  • Tystysgrif Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0 (40 credyd Lefel 7)
  • MSc Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0 (Lefel 7) – opsiwn i astudio modiwlau unigol os dymunir
  • Tystysgrif Gwella Busnes gyda Rheoli Arloesedd (40 credyd Lefel 6 neu 7, yn dibynnu ar gymhwysedd)
  • MSc Rheoli Arloesedd Rhyngwladol

Pob un wedi’i ardystio gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (felly maen nhw’n gymwysterau cydnabyddedig).

CLICIWCH YMA am daflen wybodaeth yn amlinellu’r cyrsiau, ond rhowch wybod i ni os hoffech drefnu sgwrs gydag un o’r tiwtoriaid neu os oes gennych unrhyw gwestiynau y gallwn helpu gyda nhw.

Fe wnawn ni eich tywys drwy’r broses gofrestru. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich cofrestru chi!

Peidiwch â chymryd ein gair ni am hyn, dyma Jo Ashburner o Red Dragon Flagmakers:

“Mae wedi bod yn brofiad go iawn ac rwy’n ei fwynhau’n fawr. Rydw i wedi dysgu gymaint ac mae wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar y busnes. Dydw i ddim yn academydd o bell ffordd, dim ond rhywun sy’n gweithio’n ddiwyd mewn busnes bach.

Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn ehangu eu sylfaen wybodaeth ac nad ydyn nhw’n deall Diwydiant 4.0, bydd hyn yn eich helpu chi. Byddwch yn edrych ar eich busnes o safbwynt gwahanol i weld sut i symleiddio pethau, lleihau costau ac ychwanegu gwerth. Rwy’n argymell yn gryf eich bod yn cysylltu â MADE Cymru ac yn mynd amdani! Does dim anfantais, mae’n dda iawn!”

Peidiwch â cholli allan ar y cyllid gwych hwn (a ddaw i ben yn fuan).

Cysylltwch â ni ar 01792 481199 neu [email protected] i gael gwybod mwy. Neu llenwch y ffurflen gyswllt isod.

Ariennir cyrsiau MADE Cymru yn llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru. Darperir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.