Mae cynllun partneriaeth arloesol wedi’i ddylunio i gydweithio gyda gweithgynhyrchwyr i ddiogelu eu gweithrediadau i’r dyfodol wedi denu ei fusnes cyntaf, OEM wedi’i leoli yn Abertawe sy’n archwilio a phrofi offer ar gyfer isadeiledd critigol: Eddyfi Technologies.
Mae prosiect MADE (Gweithgynhyrchu ar gyfer Peirianneg Dylunio Uwch) yn gyfres o brosiectau wedi’u cyllido gan yr UE sy’n cael eu darparu gan Ganolfan Uwch Gynhyrchu Swp (CBM) Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCDDS), yn cefnogi diwydiant i uwchsgilio a mabwysiadu technolegau gweithgynhyrchu uwch.
Mae tîm MADE bellach yn gweithio’n agos gydag Eddyfi Technologies sydd â’i bencadlys Prydeinig yn Abertawe, i helpu’r cwmni i ddatblygu ymhellach ei dechnoleg Floormap™. Mae’r offer yn cael ei ddefnyddio fel arfer i ganfod cyrydiad ar waelod tanciau storio yn y diwydiant olew a nwy.
Mae Eddyfi Technologies yn cynnig datrysiadau electromagnetig perfformiad uchel ar gyfer archwilio cydrannau ac asedau critigol mewn gweithgareddau olew a nwy, awyrofod a leiniau peipiau.
Mae agwedd Peirianneg Dylunio Uwch y prosiect MADE yn gweld y tîm CBM yn helpu gweithgynhyrchwyr i adnabod problemau penodol o fewn eu gweithrediadau, neu gyda darn penodol o offer neu dechnoleg, neu gallan nhw ddod o hyd i gyfleoedd i gyflwyno technolegau uwch i helpu symleiddio gweithrediadau. Yna bydd datrysiadau hyfyw’n cael eu hastudio a’u peilota, cyn cael eu treiglo allan i arwain at newid parhaol.
Meddai’r Athro Neil Pearson, prif wyddonydd/rheolwr cynnyrch Eddyfi Technologies:
“Rydyn ni’n hapus i fod yn gweithio gyda MADE i fireinio ein technoleg Floormap. Rydyn ni wedi cael trafodaethau cychwynnol gyda’r tîm i siarad am rai gwelliannau i’r gweithgynhyrchu fyddai’n llesol i’r dechnoleg hon wrth ymchwilio arwynebau mewnol tanciau storio. Mae’r amgylchedd lle mae’r dechnoleg hon yn cael ei defnyddio yn un peryglus, ac mewn rhai achosion, gall amgaead y synhwyrydd ddod mewn cysylltiad â’r llawr. Mae hyn yn golygu bod angen amgaead i’r synhwyrydd sy’n gryf iawn ac yn gwrthsefyll sgraffinio gyda trwch o lai na milimetr er mwyn cadw sensitifrwydd y mesur.
“Mae cael y tîm CBM wrth law yn Abertawe wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Maen nhw’n ymateb yn gyflym ac mae cwrdd wyneb yn wyneb wedi caniatáu i ni siarad am y materion penodol hyn yn fanwl ac edrych ar ddatrysiadau allai fod yn effeithiol ac yn ymarferol i’n gwaith.
“Mae’n hanfodol i’n busnes ein bod ni’n esblygu’n barhaus, i gwrdd ag anghenion ein cleientiaid, i gofleidio dulliau a thechnolegau newydd er mwyn parhau ar flaen y gad yn ein diwydiant. Mae’r angen i symud ymlaen er mwyn aros yn gystadleuol mewn marchnad sy’n gynyddol heriol ar flaen meddwl holl weithgynhyrchwyr Cymru a byddwn yn annog pobl eraill i gysylltu â thîm MADE i drafod sut y gallen nhw eu helpu.”
Meddai Luca Pagano, Uwch Beiriannydd Ymchwil ar y Prosiect Peirianneg Dylunio Uwch: “Rydyn ni’n falch i fod yn gweithio gydag Eddyfi Technologies ar eu hoffer Floormap. Mae gan y tîm CBM brofiad o ganfod datrysiadau go iawn i broblemau unigryw sy’n wynebu gweithgynhyrchwyr o fewn eu gweithrediadau, ar draws pob maes o ddiwydiant.
“Mae’r rhain yn ddyddiau heriol i weithgynhyrchu yng Nghymru, ac rydyn ni’n gweld newidiadau cyflym iawn yn digwydd ym myd technoleg, sy’n gallu cynnig manteision gwirioneddol. Mae menter MADE yn cynnig cyfres o brosiectau cydweithredol, yn darparu offer hanfodol i weithgynhyrchwyr sy’n benderfynol o fod wedi eu harfogi’n dda at y dyfodol.
“Rydyn ni’n siarad gyda nifer o weithgynhyrchwyr eraill yng Nghymru sy’n awyddus i ni ymgynghori â nhw ar gynnyrch penodol, neu i’w helpu i ddatrys unrhyw aneffeithlonrwydd o fewn eu prosesau sy’n amharu ar y gwaith. Rydym yn annog gweithgynhyrchwyr i gysylltu â thîm MADE er mwyn canfod sut y gallwn weithio gyda’n gilydd er budd eu gweithgareddau.”
Mae’r prosiect MADE yn cael ei gynnig i sefydliadau sy’n gymwys yng Nghymru fel portffolio integredig, i helpu gweithgynhyrchwyr i ddeall yr heriau sy’n eu hwynebu a sut y gallant ymateb iddynt, drwy ddefnyddio technolegau tarfol a hyfforddiant sy’n addas ar gyfer eu busnesau.
Mae’r prosiect hwn wedi cael ei gyllido’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Gall gweithgynhyrchwyr yng Nghymru sydd am gael gwybod rhagor fynd i: madecymru.co.uk
Am ragor o fanylion am Eddyfi ewch i: https://www.eddyfi.com/
Diwedd