Economi Gylchol – pa wahaniaeth y gall ei wneud i’ch busnes chi?

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Eoin Bailey, Rheolwr Arloesedd y DU, Celsa Steel 

Economeg Gylchol

Yn syml, mae economi gylchol yn economi sy’n gylchol ei natur. Fel dylunydd, peiriannydd ac arloeswr rwy’n bersonol yn gweld economi gylchol fel ‘ateb sydd wedi’i gynllunio’n strategol ar gyfer datblygu economaidd adferol yn seiliedig ar ddealltwriaeth cylch oes llawn!’ Yn y bôn, mae economi gylchol yn ymwneud â datblygu cyfleoedd ar gyfer ffyniant a thwf cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. 

Economeg Linol

Fel rhywogaeth rydym i gyd yn byw gyda’n gilydd ar y blaned fregus hon. Fodd bynnag, fel rhywogaeth rydym yn methu yn ein cyfrifoldeb fel ceidwaid. Mae gennym ddibyniaeth ar strwythurau a systemau economaidd sy’n gwneud ein planed a’n rhywogaeth yn sâl. Mae ein systemau economaidd yn seiliedig ar echdynnu deunyddiau crai’r ddaear, gwneud pethau drwy drin y deunyddiau hynny, eu cludo ledled y byd sawl gwaith, cyn eu taflu pan nad ydynt yn ddefnyddiol mwyach neu pan ddaw rhywbeth newydd a sgleiniog. Gelwir y system hon yn economi linol a dyma’r rheswm pam mae angen inni newid. Mae angen i ni gyrraedd y pwynt lle rydyn ni’n edrych ar ddyfodol sy’n ffyniannus ac yn gyfartal i bawb, mae angen dyfodol sy’n gylchol.

Meddwl Llinol

Mae’r economi linellol wedi bodoli ers dechrau dynoliaeth, ar adeg pan nad oedd echdynnu adnoddau naturiol ar gyfer gwneud offer neu arfau hela yn effeithio ar allu’r ddaear i wella ac adfer. Fodd bynnag, mae’r meddylfryd llinol hwn wedi parhau drwy gydol yr oesoedd. Esblygodd datblygiad athroniaeth y gorllewin, ehangu crefydd ac uno’r gwyddorau, yn enwedig yn ystod y bymthegfed ganrif, heb sôn am ddatblygu ymdeimlad chwyddedig o oruchafiaeth ddynol, ein datgysylltiad oddi wrth natur a dinistr y byd naturiol. Hefyd, yn ystod y cyfnod hwn, gwaethygwyd ein datgysylltiad â’r byd naturiol gan ganfyddiad gwrthnysig o werth trwy ddatblygu hawliau eiddo. 

Awgrymodd John Locke, athronydd o Loegr a luniodd y cysyniad o eiddo deallusol, nad oes gan natur ar ei ben ei hun unrhyw werth cynhenid i ddynoliaeth – dim ond pan ychwanegir llafur y mae adnodd yn cynrychioli unrhyw werth. Gyda’r canfyddiad hwn o werth daeth y cysyniad o eiddo. Felly, drwy gyfnewid neu werthu’r eiddo am ei werth mewn arian parod bydd y perchennog yn gwneud elw. O ganlyniad, dim ond ar yr un pwynt gwerthu hwnnw y ceir gwerth canfyddedig adnodd materol. Daeth y ffocws pwynt gwerthu unigol hwn yn sylfaen i’n heconomi linol. Drwy’r gwahanol chwyldroadau diwydiannol, rydym wedi dod yn hynod effeithlon wrth echdynnu a cham-fanteisio. Fodd bynnag, mae hyd yn oed y technolegau mwyaf datblygedig a ‘chynaliadwy’ mewn theori yn cael eu datblygu heddiw gyda meddylfryd llinol hynafol. Oherwydd ein ffocws unigol ar elw gwerthiant, rydym yn tueddu i weithio mewn seilos heb unrhyw ddiddordeb o ble y daw pethau, na beth sy’n digwydd pan nad yw’r pethau hynny’n cael eu defnyddio mwyach. Felly, rydym yn ildio ein cyfrifoldeb am yr ansicrwydd, y risgiau, yr effeithiau negyddol, y croestyniadau, y canlyniadau anfwriadol a’r gost annisgwyl a ddaw yn sgil y dull hwn. Pa mor aml ydyn ni’n clywed, ‘nid fy ngwaith i yw hynny, gwaith rhywun arall ydyw’? Mae hyn yn gwaethygu effeithiau negyddol economi linol.

Deall Cylch Oes Llawn

Mae’r Economi Gylchol yn ceisio cynyddu gwerth a dileu effaith adnoddau trwy gydol eu cylch oes llawn. Fodd bynnag, mae tybiaethau annoeth ynghylch ystyr ‘cylch oes llawn’. Pan glywn ‘o’r crud i gât’, mae’n cyfeirio at lif yr adnoddau o fewn ffiniau cwmni i’r pwynt bod cynhyrchion yn cael eu llwytho a’u cludo allan. Mae hyn yn aml yn cael ei drosi i ‘unwaith y bydd yn gadael yma, nid fy mhroblem i yw hi’. Mae’r ymadrodd ‘o’r crud i’r bedd’ yn cyfeirio at lif yr adnoddau hyd nes nad ydynt yn cael eu defnyddio mwyach ac mae angen eu gwaredu. Heb strategaeth economi gylchol gadarn ar waith, mae hyn yn gyffredinol yn golygu y bydd yr adnodd yn mynd i safleoedd tirlenwi neu ar y gorau bydd rhai’n cael eu hisgylchu i ffurf sy’n ansawdd is na’r ansawdd blaenorol.

Nid Ailgylchu’n Unig

Ar y pwynt hwn mae’n werth nodi’n glir NAD ailgylchu yn unig yw’r economi gylchol. Mae ailgylchu ar ei ffurf bresennol mewn gwirionedd yn adwaith i aneffeithlonrwydd ac effeithiau’r economi linol. Er mwyn deall cylcholdeb yn iawn, mae angen i ni ystyried o ble mae’r athroniaeth wedi dod – a daw hynny’n syml o ddynwared natur. Ym myd natur nid oes unrhyw wastraff, dim ond bwyd ar gyfer bywyd newydd – yr ecosystemau naturiol neu fetabolaeth fiolegol, os dymunwch. Trwy ddysgu o fyd natur gallwn drosi a chynllunio ein gweithgaredd diwydiannol a’n systemau economaidd yn fetabolaeth dechnegol, wrth ddysgu o fyd natur a’r 6 biliwn o flynyddoedd o Ymchwil a Datblygu. Mae gwastraff yn her fawr i’r gymdeithas fodern. Fodd bynnag, – os oes rhagdybiaeth bod gwastraff yn deillio o’r broses ddiwydiannol, economaidd a chymdeithasol linol bresennol, gellir tybio bod y gwastraff neu’r aneffeithlonrwydd hwnnw wedi’i gynllunio i’r broses honno. Felly, gallwch hefyd dybio y gellir ei gynllunio i beidio â bod yn rhan o’r broses honno – hynny yw, ‘Dim ond Dylunio Gwael yw Gwastraff’.  Felly, yn hytrach na datblygu ffyrdd o leihau gwastraff, mae angen inni ddileu’r cysyniad o wastraff. Dim ond adnoddau y gellir eu defnyddio fel porthiant ar gyfer datblygiadau newydd sydd gennym.

This image has an empty alt attribute; its file name is 01_CE_Title-2-1024x576.jpg

Meddylfryd Cylchol

Mae nifer o egwyddorion, methodolegau ac athroniaethau yn dod yn fwy amlwg ym mholisi’r llywodraeth, addysg, ymchwil academaidd ac mewn diwydiant sy’n canolbwyntio ar atebion adferol. Fodd bynnag, mae angen i ni sicrhau bod yr athroniaethau hyn a sut maen nhw’n cydgysylltu yn cael eu deall yn iawn. Mae angen i’r drafodaeth a’r rhethreg symud ymhell y tu hwnt i’r syniad bod yr economi gylchol yn ymwneud ag ailgylchu yn unig. Yr hyn sy’n ofynnol yw system feddwl (a gwneud) hollol newydd sy’n cwmpasu perfformiad, gwerth, effaith a rhyng-gysylltedd cylch oes llawn. Pan fydd rhywun yn dechrau gweld y byd drwy lens economi gylchol, mae’n amhosibl peidio â’i weld a byddwn yn ei chael yn anodd deall pam nad yw’n amlwg i bawb arall! Mae’r economi gylchol yn ford reddfol o feddwl, gwneud a darparu atebion mewn ffordd sy’n llawer mwy buddiol i’r blaned, i bobl ac i’n helw. Mae taith sefydliad i gylcholdeb yn dechrau drwy ofyn cyfres o gwestiynau syml am y sefyllfa bresennol.

Cwestiynau fel – o ble mae deunyddiau’n dod a beth sy’n digwydd yn ffynhonnell wreiddiol y deunydd hwnnw? A ydych yn effeithlon gyda’r adnoddau hynny tra byddant o dan eich rheolaeth? A yw eich busnes yn cynhyrchu gwastraff? Bydd yr atebion, ynghyd â safbwynt cylchol yn cynnig persbectif newydd, gan arwain at atebion pendant a fydd yn dechrau ymgorffori meddwl cylchol yn eich egwyddorion busnes. Ymgysylltwch eich pobl â’r cysyniad, nid oes rhaid iddo fod yn rhaglen hyfforddi gyfan o reidrwydd – dim ond bod yn agored i drafodaeth a gofyn eu barn. Yn yr un modd, ymgysylltwch â’ch cwsmeriaid – mynnwch sgwrs gyda nhw a chael gwybod am eu heriau a sut y gall eich busnes gynnig yr atebion. Cynigiwch gefnogaeth a datblygwch syniadau drwy gydweithio. Ystyriwch ddatblygu partneriaethau strategol gyda chyflenwyr lle gallwch chi ddechrau edrych ar rannu cyfleoedd, rhannu’r buddion ac yn y pen draw cynyddu elfennau ymddiriedaeth i ddatblygu atebion newydd. Gall gwahanol bolisïau, safonau a chyfarwyddebau gael effaith ar farchnad – a ydych chi’n ymwybodol o’r hyn a fydd yn newid a’r effaith y bydd hyn yn ei chael ar eich busnes? Mae bob amser yn dda deall beth sy’n digwydd o safbwynt polisi. Bydd yr atebion i’r cwestiynau hyn yn rhoi llinell sylfaen o wybodaeth ac eglurder i chi o’r sefyllfa bresennol. Mae mynd i’r afael â rhai o’r heriau a ddarganfuwyd gyda dealltwriaeth o Economi Gylchol yn rhoi eich sefydliad mewn sefyllfa well o lawer i allu symud ymlaen.

Pontio Cylchol

Bob blwyddyn, mae Celsa UK yn cynhyrchu miliwn tunnell o gynnyrch dur hir ar gyfer economi’r DU. Cyflawnir hyn drwy brosesu 1.2 miliwn tunnell o sgrap bob blwyddyn, gan wneud Celsa yn un o’r ailgylchwyr mwyaf yn y DU. Yn ei hanfod, gallech ystyried bod Celsa yn darparu cylcholdeb, ac yn sicr mae fy ngrŵp yn sôn am fod yn rhif un ar restr ailgylchwyr yn Ewrop. Rydw i wedi eu herio ar hyn gan fod ailgylchu’n awgrymu lefel o ansawdd sy’n aros yr un fath, ond mewn gwirionedd rydym yn isgylchu. Rydym yn cymryd metel sgrap sy’n adwaith i economi linol o wahanol ddiwydiannau – modurol, adeiladu, nwyddau electronig a chaiff y deunydd hynny ei wasgu, ei rwygo a’i wahanu. Felly, nid yw’r cam cylch oes nesaf o reidrwydd yr un lefel o ansawdd.

Yn Celsa rydyn ni am gymryd yr hyn rydyn ni’n ei wneud a’i gynnig fel Gwasanaeth Dur Cylchol. Felly yn hytrach na phrosesu sgrap a gwerthu nwyddau dur, rydym yn gobeithio darparu ein Ffwrnais Bwa Trydanol carbon isel fel gwasanaeth i ddiwydiant a’r economi. Mae defnyddio trydan i doddi’r dur yn golygu bod ein hôl troed carbon yn llawer is. Mae gennym hefyd weithrediadau ffabrigo i lawr y gadwyn sy’n gallu darparu cynnyrch gorffenedig i safleoedd adeiladu. Drwy fod yn agored i gydweithredu, rydym mewn sefyllfa i hwyluso’r cysylltiad rhwng dymchwel (h.y. gwastraff, allyriadau cwmpas 3) ac adeiladu (h.y. deunydd newydd, allyriadau cwmpas 3). Felly, helpu i ddatgarboneiddio’r gadwyn gyflenwi adeiladu.

Addasu Cwmpas a Tharged

Mae’r opsiynau cylchol yr ydym yn eu harchwilio yn golygu newid ychydig iawn o’n proses bresennol ac ychydig iawn o hyfforddiant ychwanegol i’n staff. Rhaid inni symud ein meddylfryd sy’n addasu cwmpas yr hyn a wnawn a sut yr ydym yn ei wneud. Mae hynny yn ei dro yn caniatáu inni ganolbwyntio darpariaeth wedi’i thargedu sy’n agor deialog i’r gadwyn gyflenwi a chwsmeriaid – mae hyn yn datblygu dull cydweithredol sy’n gosod y llwyfan ar gyfer dyfodol llewyrchus cynaliadwy i bawb. Mae cydweithredu yn elfen allweddol o’r economi gylchol. 

Mae newid meddylfryd busnes yn gyfle enfawr. Dechreuwch trwy ddarganfod y gwerth mewn cylcholdeb a’i gyflwyno yng nghyd-destun y llinol. Unwaith y bydd y gwerth hwnnw’n dechrau cael ei wireddu bydd y cysyniad a’r manteision ychwanegol yn ennill momentwm. Gallai hyd yn oed darparu golwg gylchol ar y gwastraff mewn sgipiau ffatri fod yn gatalydd ar gyfer newid nad oedd wedi’i ystyried o’r blaen. 

Nid dim ond rhywbeth braf i’w gael yw economi gylchol – mae’n hanfodol i’r ffyniant cynaliadwy sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Cofiwch:

Dim ond Dylunio Gwael yw gwastraff

Mae cydweithio’n allweddol

Daw’r erthygl hon o gyfres o weminarau mewn uwchgynhadledd diwydiant tri diwrnod a drefnwyd gan MADE Cymru a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ym mis Mehefin 2021. Mae MADE Cymru yn fenter a ariennir gan yr UE (drwy Lywodraeth Cymru) sy’n ceisio cefnogi a rhoi hwb i weithgynhyrchwyr yng Nghymru drwy raglenni uwchsgilio ac ymchwil a datblygu. Dysgwch ragor drwy fynd i www.madecymru.co.uk neu e-bostiwch un o’r tîm yn [email protected]