Dr Frank O’Conner yn rhannu ei arbenigedd gyda myfyrwyr Arloesedd Rhyngwladol MADE Cymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae’r darlithydd Alan Mumby yn edrych ymlaen at groesawu ei hen ffrind a’i gyn-gydweithiwr Dr Frank O’Conner fel siaradwr gwadd ddydd Gwener.

Gweithiodd Frank gydag Alan yn Dylunio Cymru (wedi’i leoli yn PDR, Caerdydd) ac ef oedd yr Arbenigwr Eco Ddylunio cyntaf erioed a noddwyd gan y llywodraeth. Cafodd y gwaith a wnaeth effaith sylweddol ar sut y gallai unigolion a chwmnïau ymateb i ddull mwy ystyriol o gynllunio a gweithgynhyrchu cynhyrchion a gwasanaethau, gan fabwysiadu dull economi mwy cylchol.

Mae’n arweinydd meddwl trawsddisgyblaethol arobryn sy’n cael ei arwain gan werthoedd mewn dylunio ar gyfer cynaliadwyedd, cylcholdeb a chyfrifoldeb. Gyda thros 30 mlynedd o brofiad bellach yn gweithio ledled y byd ar heriau dylunio, strategaeth a pholisi gyda phob math a maint o sefydliadau a sectorau. Rhaid ichi fynd yn ôl i 1989 pan alwodd Frank am economi gylchol gyntaf yn Iwerddon yn ei gyhoeddiad arloesol ar adfer ac ailgylchu deunyddiau. Mae ei waith wedi ei gyhoeddi’n eang ac mae wedi cyflwyno ei syniadau ledled y byd gan gynnwys i Dŷ’r Arglwyddi, y Comisiwn Ewropeaidd a’r Cenhedloedd Unedig. Mae ganddo gefndir amlddisgyblaethol sy’n cynnwys Gradd Meistr mewn Gweithgynhyrchu Uwch, gradd ôl-raddedig mewn Rheoli a PhD mewn Dylunio Amgylcheddol Ymwybodol.

Ef yw sylfaenydd/cyfarwyddwr anois, asiantaeth ddylunio fyd-eang a sefydlwyd gyda Jude Sherry. Gan arbenigo mewn cydweithredu helix, mae anois yn cymryd persbectif dylunio systemau sy’n arbenigo mewn brandio moesegol, dylunio cynnyrch cynaliadwy, cadwyni gwerth cyfrifol a modelau busnes cylchol, ar lefel cynnyrch a threfol, tra’n gweithio gydag o adrannau fewn llywodraethraethau, llywodraethau, awdurdodau lleol, busnesau, addysgwyr a chymdeithasau sifil.

Yn ei ddarlith, a ddarlledir yn fyw o Cork, bydd Frank yn cyflwyno modelau busnes cylchol a’u goblygiadau ar gyfer arloesi rhyngwladol. Bydd yn cynnwys astudiaethau achos diwydiant go iawn ac yn archwilio tueddiadau, risgiau, rheoliadau a chyfleoedd byd-eang i gwmnïau arloesi mewn marchnad ryngwladol.

Mae MADE Cymru yn cynnig cwrs Meistr Arloesedd Rhyngwladol neu gwrs Gwella Busnes byrrach gyda Rheoli Arloesedd (Tystysgrif 40 credyd Lefel 7). Ardystir y rhain gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant ac ar hyn o bryd maent yn cael eu hariannu’n llawn ar gyfer busnesau cymwys. Caiff yr holl gyrsiau eu darparu drwy ddysgu ar-lein cyfunol ac fe’u cynlluniwyd i fod yn hyblyg.

Llenwch y ffurflen GYSWLLT isod i gael mwy o wybodaeth.

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Me wedi’i hariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.