Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae technoleg wedi symud mor gyflym dros y degawd diwethaf fel bod gweithgynhyrchwyr yng Nghymru bellach yn cael cyfle i fanteisio ar awtomeiddio a systemau clyfar i barhau i fod ar y blaen. Nid yw diwydiant 4.0 yn ymwneud â robotiaid yn cymryd lle pobl yn y broses weithgynhyrchu. Mae’n ymwneud â defnyddio technoleg i wella prosesau, cynyddu capasiti a chaniatáu i’r gweithlu ganolbwyntio ar dasgau mwy buddiol. Cymhwyso’r wybodaeth hon yn greadigol a fydd yn diogelu’r diwydiant gweithgynhyrchu yn y dyfodol, yng Nghymru a thu hwnt.

Sut y gall MADE Cymru helpu

Mae MADE Cymru yn cynnig cymorth ac arbenigedd i arwain sefydliadau drwy natur drosiannol Diwydiant 4.0. Rydym yn cynnig hyfforddiant pwrpasol sy’n arwain at ddyfarniad prifysgol, yn seiliedig ar eich anghenion fel cyflogwr.

Gan gyfuno dysgu o bell a sesiynau wyneb yn wyneb, byddwn yn rhoi sgiliau i aelodau eich tîm helpu i lunio’r ymateb i Ddiwydiant 4.0 o fewn eich cwmni, yn ogystal â datblygu cyfleoedd gyrfa unigol.

Siaradwch â ni

Cysylltwch â MADE Cymru heddiw i ddarganfod sut y gallwn eich helpu chi a’ch sefydliad.