Darganfyddwch sut y gall MADE Cymru fod o fudd i’ch busnes yn sioe deithiol rithwir Busnes Cymru

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae Busnes Cymru wedi symud Sioe Deithiol Ranbarthol, y Canolbarth a’r De-orllewin 2020 ar-lein a bydd MADE Cymru yn mynychu gyda stondin arddangos rithwir. Mae’r fformat newydd yn cynnwys ardal ffrydio byw, sesiynau trafod, fforymau rhwydweithio a neuadd arddangos ryngweithiol rithwir.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar 22 Hydref rhwng 9:30am a 3:00pm.

Bydd y cynrychiolwyr yn gallu gweld stondinau wrth gofrestru ac archebu slotiau ar gyfer cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn y digwyddiad. Trefnwyd y digwyddiad i arddangos ffordd newydd o gynnal digwyddiadau rhwydweithio busnes, yn enwedig yn ystod y cyfyngiadau Covid presennol, a rhoi cyfle i gynnal cyswllt a rhyngweithio gwerthfawr rhwng busnesau, unigolion a rhanddeiliaid.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys Rhodri Griffiths, Prif Swyddog Rhanbarthol Tîm Rhanbarthol y Canolbarth a’r De-orllewin, Llywodraeth Cymru,  a Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth.

Bydd Graham Howe a Lisa Lucas ar gael i sgwrsio â busnesau am gyfres MADE Cymru o brosiectau a sut y gallant hybu cynhyrchiant yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Meddai Graham Howe, “Mae gennym gyfle i weithgynhyrchwyr yng Nghymru archwilio prosesau a thechnolegau newydd sydd â’r potensial i gynyddu effeithlonrwydd, gwneud y mwyaf o gynhyrchiant a diogelu busnesau at y dyfodol. Mae cydweithredu’n allweddol i’r llwyddiant hwn. Mae MADE Cymru yn cynnig cyrsiau hyblyg sydd wedi’u hachredu gan brifysgolion mewn Gweithgynhyrchu Uwch a Rheoli Arloesedd ynghyd â chynllun cymorth busnes dan arweiniad arbenigwyr. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at sgwrsio â chi am sut y gallwn eich helpu i gofleidio’r wybodaeth, ymchwil a thechnolegau diweddaraf.”

Gall cynrychiolwyr gofrestru ar gyfer y digwyddiad drwy’r ddolen hon:

https://www.regionalroadshow.wales/

https://cy.regionalroadshow.wales/

Gallwch archebu cyfarfod byr gyda Graham Howe neu Lisa Lucas ymlaen llaw drwy’r un ddolen.

Am ragor o wybodaeth, llenwch y ffurflen gyswllt isod.

Neu e-bostiwch [email protected] ffoniwch 01792 481199

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy Ddiwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu gydweithredol ac uwchsgilio. Wedi’i ariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Cyflwynir gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.