Dewch i siarad ‘tech’ gyda ni yng Ngŵyl Technoleg Ddatblygol eleni 26 – 28 Ionawr

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae MADE Cymru wrth ei fodd o fod yn bartner thema yng Ngŵyl Technoleg Ddatblygol eleni. Y digwyddiad tridiau a gynhelir rhwng 26-28 Ionawr, yn arddangos peth o’r dechnoleg fwyaf cyffrous yng Nghymru a thu hwnt. Bydd y digwyddiad rhithwir hwn yn dangos sut mae’r sector technoleg arloesol yn trawsnewid bywydau a diwydiannau – o ficrofusnesau i gorfforaethau amlwladol.

Gallwch ddod o hyd i MADE Cymru yn ein dwy sesiwn:

26 Ionawr, 11:45-12:45, ‘MADE Cymru: Hybu economi Cymru – pŵer cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant’

Sgwrs ar sut y gall diwydiant elwa o ymgysylltu â phrifysgolion, a hefyd sut y gallwn ni, fel prifysgolion, elwa o ymgysylltu â’r diwydiant.

28 Ionawr, 10:30-11:30, ‘Mabwysiadu Diwydiant 4.0 – sut mae gweithgynhyrchwyr yn goroesi drwy’r pandemig’ 

Ymunwch â MADE Cymru mewn trafodaeth bord gron gydag Oliver Conger (Rototherm), Lynn Davies (Probe RTS), David Morgan (Avanade), Natalie Glover (Reeco Automation Ltd) ac arbenigwyr eraill yn y diwydiant. Byddwn yn sôn am gyfleoedd yn y byd ar ôl Covid a sut mae gweithgynhyrchwyr wedi addasu nid yn unig i oroesi’r pandemig, ond i ffynnu.

Meddai Graham Howe, Prif Gymrawd Ymchwil MADE Cymru, “Mae pandemig Covid-19 wedi newid diwydiant yng Nghymru yn barhaol – er bod yr heriau wedi bod yn aruthrol ac, ar adegau yn peri pryder, bu rhai newidiadau cadarnhaol hefyd. Un o’r rhain yw bod mwy o bobl yn cydnabod y rôl bwysig y mae technoleg yn ei chwarae mewn diwydiant. Nid yn unig yn yr hyn rydym yn ei weithgynhyrchu (a sut rydym yn ei wneud) ond hefyd yn y ffordd rydym yn gweithio ac yn cyfathrebu. Ac, yn bwysicach fyth, bydd yn chwarae rhan annatod wrth greu economi fwy gwydn wrth symud ymlaen. Mae technolegau newydd a datblygol Diwydiant 4.0 yn cael eu cydnabod a’u harneisio gan weithgynhyrchwyr ac mae MADE Cymru yn awyddus i gefnogi hyn drwy gynnig cyrsiau a chyfleoedd cydweithredol ymchwilio a datblygu sy’n benodol ar gyfer diwydiant.”
“Mae digwyddiadau fel yr Ŵyl Technoleg Ddatblygol yn bwysig wrth ddathlu cyflawniadau technolegol Cymru a chaniatáu i ni rwydweithio â’n gilydd gyda’r nod o gydweithio cyffrous, rhannu gwybodaeth ac ysbrydoliaeth.”

Cofrestrwch fel cynrychiolydd (AM DDIM) ar gyfer y digwyddiad yma a byddwch hefyd yn gallu trefnu sgwrs gydag aelod o dîm MADE Cymru:

Cliciwch i gofrestru – Gŵyl Technoleg Ddatblygol 2021

Yn y cyfamser, os hoffech drefnu sgwrs anffurfiol gydag aelod o’r tîm, cysylltwch â ni drwy’r ffurflen isod.

Gallwch hefyd ffonio 01792 481199 neu e-bostio [email protected]

Cyfres o raglenni yw MADE Cymru sydd wedi’u cynllunio i lywio sefydliadau drwy’r rhaglen Diwydiant 4.0 drwy ymchwil a datblygu cydweithredol ac uwchsgilio. Mae wedi’i hariannu’n rhannol/llawn gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop/Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru. Wedi’i ddarparu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.