Gwahoddwyd rhai o dîm MADE Cymru i siarad mewn darlith a drefnwyd gan Dr Carlene Campbell a Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET) De-orllewin Cymru. Cafodd ei ffrydio’n fyw o’r labordy roboteg ar Gampws SA1 Glannau Abertawe, PCYDDS. Teitl y sesiwn oedd ‘Gweithgynhyrchu Clyfar gyda Diwydiant 4.0’ ac roedd yn gyfle i MADE Cymru PCYDDS a phrosiectau Cyflymydd Digidol SMART amlinellu’r cymorth y gallant ei gynnig i weithgynhyrchwyr yng Nghymru.
Fel rhan o’r sesiwn, cynhaliwyd arolwg barn ar-lein i gasglu cipolwg cyflym o sut roedd y rhai a oedd yn bresennol yn teimlo am dechnoleg ddigidol. Roedd cwestiynau ac ymatebion yr arolwg barn fel a ganlyn:
Lefel cynefindra â thechnoleg
Pa un o’r datganiadau canlynol sy’n disgrifio orau eich lefel o gynefindra â Diwydiant 4.0 / technoleg gweithgynhyrchu digidol?
58% Canolradd – yn gyfarwydd â rhai o’r technolegau galluogi a chysyniadau/damcaniaethau sylfaenol
32% Dibrofiad – Ddim yn gyfarwydd â’r termau gweithgynhyrchu digidol / Diwydiant 4.0
9% Uwch – Yn gyfarwydd â’r holl dechnolegau galluogi a gwybodaeth am y rhan fwyaf o’r cysyniadau/damcaniaethau sylfaenol
Effaith fwyaf technoleg
Pa un o’r technolegau canlynol, yn eich barn chi, fydd yn cael yr effaith fwyaf o fewn y diwydiant gweithgynhyrchu yn ystod y 10 mlynedd nesaf?
34% Systemau Awtomataidd Clyfar
27% Deallusrwydd Artiffisial a Data Mawr
20% Efelychu a Gefeilliaid Digidol
15% Rhwydweithio a Seiberddiogelwch
5% Technolegau Ymgolli (Realiti Estynedig, Rhithwir a Chymysg)
Yr her fwyaf
Yn eich barn chi, beth yw’r her fwyaf i fabwysiadu technolegau digidol?
37% Heriau diwylliannol / gwrthwynebiad i newid
26% Gwybodaeth ac adnoddau seiliedig ar sgiliau
16% Integreiddio â systemau presennol
16% Heriau ariannol
5% Arall
Yn dilyn y sesiwn, cawsom sgwrs gyda Graham Howe o MADE Cymru a Richard Morgan o Cyflymydd Digidol SMART i weld beth oedd eu barn nhw am yr ymatebion.
Meddai Graham Howe, Pennaeth Gweithredol MADE Cymru, “I mi, y canlyniad mwyaf diddorol oedd bod dros chwarter y rhai a oedd yn bresennol yn teimlo bod gwybodaeth ac adnoddau seiliedig ar sgiliau yn rhwystr i fabwysiadu technolegau digidol. Mae hyn yn dangos angen clir i gynyddu a chaboli sgiliau gweithwyr er mwyn iddyn nhw allu gweithredu technoleg diwydiant 4.0 a’u cefnogi i nodi’r dechnoleg gywir ar gyfer eu busnes. Cynlluniwyd ein cyrsiau byr MADE Cymru a ariennir yn llawn i ddiwallu’r angen hwn yn benodol ac rydym ar daith i helpu gweithgynhyrchwyr yng Nghymru drwy’r broses hon. Mae nifer enfawr o weithgynhyrchwyr yn astudio gyda ni yn barod ac rydyn ni’n gobeithio cofrestru cynifer o fyfyrwyr ag y gallwn cyn i’r cyllid ddod i ben. Diolch i’r IET am ofyn i ni siarad, mae’n fraint cael ein gofyn i gyflwyno’r hyn rydyn ni’n ei wneud.”
Dywedodd Richard Morgan, Arweinydd Prosiect Cyflymydd Digidol SMART a Phennaeth Arloesedd ac Ymgysylltu yn PCYDDS, “Roedd yn brofiad cyffrous cael gwahoddiad i gymryd rhan yn y ddarlith IET. Gwnaethom fwynhau dangos Offer Seiber Festo yn ein labordy yn arbennig. Rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nifer o weithgynhyrchwyr ledled Cymru, i ganfod pa dechnolegau digidol fydd yn effeithio fwyaf ar eu busnesau. Rydyn ni am eu helpu i dorri costau, lleihau gwastraff, a chynyddu cynhyrchiant. Nid oes llawer o bwynt buddsoddi mewn technoleg arloesol os nad yw’n diwallu angen ac yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Diolch i Dr Carlene Campbell sy’n Gadeirydd IET De-orllewin Cymru am ein gwahodd ni.”
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect MADE Cymru a ariennir gan yr UE (trwy Lywodraeth Cymru) ewch i www.madecymru.co.uk neu e-bostiwch [email protected]
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Cyflymydd Digidol SMART a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ewch i www.uwtsd.ac.uk/cy/cyflymydddigidolsmart/ neu e-bostiwch [email protected]