Carfan newydd o fyfyrwyr MADE Cymru yn dechrau ar eu taith gwelliant parhaus

Cofrestru i dderbyn cylchlythyr

Mae tymor newydd wedi dechrau ar gyfer cyrsiau Uwchsgilio ar gyfer Diwydiant 4.0 a Rheoli Arloesedd MADE Cymru. Mae mwy a mwy o fusnesau yng Nghymru yn cydnabod gwerth economaidd cynyddu sgiliau eu staff – a dyma’r garfan fwyaf hyd yma. Mae amrywiaeth eang o sectorau (a meintiau) busnes wedi cofrestru eu gweithwyr gyda’r nod o gael effeithiau cadarnhaol ar eu sefydliadau.

Gofynnir i ni’n aml pwy yw ein myfyrwyr, felly rydyn ni wedi gofyn i rai pam y dewison nhw’r cwrs a’r hyn y maent yn gobeithio ei gyflawni o’u hastudiaethau.

Studying: Continuous improvement with Industry 4.0 (Level 5).

Astudio: Gwelliant parhaus gyda Diwydiant 4.0 (Lefel5).

Pam MADE Cymru?

Lefel yr adborth ac enw da MADE Cymru.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni?

Rydw i am wreiddio’r wybodaeth rydw i’n ei dysgu ar y cwrs i ysgogi gwelliant parhaus o fewn fy musnes ac yn y pen draw sefydlu diwylliant o welliant parhaus ar draws y chwe uned fusnes.

Astudio: Rheoli Arloesedd Rhyngwladol (MSc)

Pam MADE Cymru?

Perthnasedd a strwythur y cwrs ar gyfer datblygu ein rhaglen ymchwil a datblygu fewnol.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni?

Gwybodaeth y gallaf ei chymhwyso i’n strategaeth arloesi busnes a fydd yn helpu i greu’r amodau gorau ar gyfer datblygu ein cynnyrch newydd gan gynnwys partneriaid cydweithredu strategol ac ymgysylltu â chwsmeriaid yn gynnar

Pam MADE Cymru?

Mae wedi cael ei hysbysebu’n dda ar LinkedIn a phan gefais wybod bod hwn yn gwrs wedi’i ariannu’n llawn, neidiais ar y cyfle. Ar ôl gweithio gydag un o’r darlithwyr o’r blaen, helpodd i gadarnhau fy newis i ymuno â’r cynllun.

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni?

Rwy’n gobeithio cymhwyso’r hyn rwy’n ei ddysgu i wella ansawdd drwy egwyddorion gwelliant parhaus. Credaf fod y ddau (Ansawdd a Gwelliant Parhaus) yn gweithio law yn llaw ar gyfer datblygu’r cwmni dan sylw a’i allbynnau. Bydd hefyd yn gyflawniad gwych ar gyfer fy natblygiad personol fy hun ac yn cryfhau’r sgiliau sydd gennyf eisoes.

Astudio: Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 (Lefel 5).

Pam MADE Cymru?

Y cyfle i wella sgiliau a gwybodaeth. Mae’n wych bod y dosbarthiadau unwaith yr wythnos, mae’n caniatáu i mi astudio tra’n dal i weithio. Mae diwydiant 4.0 hefyd yn bwnc y mae gennyf ddiddordeb mawr ynddo. 

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni?

Gwell dealltwriaeth o dechnegau  chwe sigma a chipolwg ar sut i gyflwyno technolegau diwydiant 4.0 i’r broses weithgynhyrchu.

Astudio:  Gweithgynhyrchu Uwch Diwydiant 4.0 (MSc)

Pam MADE Cymru?

Rwy’n falch iawn bod MADE Cymru wedi rhoi’r cyfle dysgu hwn i mi. I mi, budd pwysicaf MADE Cymru yw’r dysgu o bell/y ffordd hyblyg o ddysgu – wrth weithio – a chynnwys y cwrs MSc. 

Beth ydych chi’n gobeithio ei gyflawni?

Rwyf wedi cwblhau fy ngradd baglor mewn Peirianneg Fecanyddol, ac maen gen i 12+ mlynedd o brofiad diwydiannol. Rwy’n gobeithio cael cipolwg pellach ar weithgynhyrchu uwch, i roi hwb i’m gwybodaeth, i ddysgu’r dechnoleg/ymchwil/sgiliau diweddaraf, a defnyddio’r holl brofiad a sgiliau helaeth hyn yn fy mywyd proffesiynol ar gyfer fy ngyrfa a’m datblygiad personol.

Amanda Hayden, Prif Swyddog Prosiect MADE Cymru yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer ein myfyrwyr MADE Cymru ac meddai, “Rydw i wedi mwynhau cwrdd â’r holl fyfyrwyr newydd a’u helpu i gofrestru. Ni allaf gredu faint o wahanol sefydliadau sydd wedi cofrestru eu gweithwyr. Mae cymaint o sectorau a rolau swyddi. Mae’r myfyrwyr i’w gweld wedi eu cyffroi yn arbennig am botensial technolegau newydd Diwydiant 4.0 i gefnogi eu diwylliant o welliant parhaus.

Rydw i wrth fy modd yn gwylio myfyrwyr yn cydweithio ac yn meithrin perthynas newydd â’i gilydd. Rwy’n gwybod bod rhai prosiectau effeithiol iawn yn deillio o’n dosbarthiadau.”

Os oes gennych chi ddiddordeb yn un o’n cyrsiau, bydd y garfan nesaf yn dechrau ym mis Mehefin. E-bostiwch [email protected] ac fe wnawn ni anfon rhywfaint o wybodaeth atoch.

CLICIWCH YMA am daflen yn amlinellu’r cyrsiau.

Mae pob cwrs wedi’i achredu gan Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).