CWESTIYNAU CYFFREDIN
Cliciwch ar enw’r prosiect isod am y cwestiynau perthnasol
Mae’r elfennau a addysgir yn cael eu cyflwyno’n fyw ac ar-lein gyda dysgu cyfunol bob prynhawn dydd Gwener. Felly, os oes gennych fynediad at gyfrifiadur/gliniadur gallwch ymuno o unrhyw le.
Yn gyffredinol, mae darlithoedd yn rhedeg rhwng 1pm a 3pm a/neu (yn dibynnu ar y modiwlau sy’n cael eu hastudio) rhwng 3:15 pm a 5:15 pm
Caiff pob sesiwn ei recordio; felly, os byddwch yn colli gwers am unrhyw reswm, yna bydd gennych fynediad llawn at yr holl adnoddau ar-lein i’ch galluogi i ddal i fyny ar adeg addas.
Gellir asesu’r gofynion mynediad ar sail unigol a rhoddir ystyriaeth i brofiad blaenorol. Ar gyfer modiwl lefel 5 Gwelliant Parhaus gyda Diwydiant 4.0 mae cymhwyster lefel 3 o leiaf yn ddymunol. Cysylltwch â ni i drafod hyn.
Dysgu byw a rhyngweithiol ar-lein. Byddwch hefyd yn gallu defnyddio adnoddau ar-lein a chael mynediad i lyfrgell.
Mae ein holl fodiwlau/cyrsiau wedi eu hachredu gan Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
Mae PCYDDS yn cynnig cymorth 24 awr dros y ffôn ar gyfer materion TG i’r holl fyfyrwyr ar bob rhaglen. Hefyd, mae gan dîm MADE aelod o staff sydd ar gael i gefnogi – dyddiau’r wythnos 8am – 4:30pm dros y ffôn, ar e-bost ac ar Teams.
Rhaid i’ch sefydliad fod wedi’i leoli yng Nghymru neu, fel gweithiwr, rhaid eich bod yn byw yng Nghymru
Nid yw maint y cwmni wedi’i gyfyngu i BBaChau, mae cwmnïau mawr a microfusnesau hefyd yn gymwys.
Ydy, mae gennym dîm cyllid a chydymffurfiaeth a all gysylltu â chi’n uniongyrchol i gadarnhau eich statws. Os nad ydych yn gymwys i dderbyn cyllid, gallwch barhau i wneud y cwrs ond bydd ffi.
Cysylltwch â [email protected] ac fe fydd un o’r tîm yn eich helpu. Gallwn hefyd gynnal sesiwn ar-lein gyda chi i drafod y broses gyda chi.
Cysylltwch â ni a gallwn anfon gwybodaeth benodol am y cyrsiau. Gallwch hefyd drafod y modiwlau gydag un o’n darlithwyr arbenigol yn y diwydiant.
Wedi’i gynllunio gyda diwydiant, ar gyfer diwydiant – mae’n canolbwyntio ar sicrhau budd economaidd gwirioneddol. Gallwch chi yn llythrennol ddysgu ar ddydd Gwener ac yna ei ddefnyddio yn eich gwaith ar y dydd Llun.
Na, mae wir yn seiliedig ar waith.
Mae Mynd a Dod Fel y Mynnoch yn eich galluogi i fynd i mewn a gadael ar bwyntiau mynediad ac ymadael diffiniedig.
Bydd – mae llawer o arbenigwyr o’r diwydiant o gefndiroedd academaidd a diwydiant yn cyfrannu at y gwaith.
Rydym yn denu amrywiaeth eang o sectorau – bwyd, iechyd, moduro, tecstilau ac ati. Pob un o feintiau amrywiol o fawr i ficro.
Dydyn ni ddim wedi cael cadarnhad am hyn ond rydyn ni’n argymell eich bod yn cofrestru cyn i’r cynnig ddod i ben.
Na, dyna fantais darparu ar-lein.
Os cofrestrwch chi ar gyfer gradd feistr lawn nawr, mae’r cynnig wedi’i ariannu’n llawn yn eich cwmpasu waeth faint o amser y mae’n ei gymryd i chi ei gwblhau.
7 Hydred 2022
No FAQs where found matching your search criteria.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach neu os hoffech sgwrsio ag aelod o dîm MADE Cymru am unrhyw un o’r uchod, cysylltwch â ni.