Ein cyfleusterau
Wedi’i lleoli yn ein Canolfan Gweithgynhyrchu Swp Uwch (CBM) yn Abertawe, mae’r tîm Peirianneg Dylunio Uwch yn hyfforddi gweithwyr gweithgynhyrchu proffesiynol i fanteisio ar dechnolegau cynhyrchu megis argraffu 3D, mowldio drwy chwistrellu a chastio gwactod. Mae ein cyfleusterau cynhyrchu ac ymchwil yn addas ar gyfer amrywiaeth o sectorau, o awyrofod a modurol i feddygol a deintyddol.
Mae’r cyrsiau a gynigiwn i unigolion yn cael eu haddysgu ar-lein yn bennaf drwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir, gyda myfyrwyr yn cael eu hannog i gymhwyso’r wybodaeth a’r sgiliau y maent yn eu datblygu yn eu rolau presennol. Mae ein rhaglenni wedi’u llunio i gyd-fynd ag oriau gwaith nodweddiadol cyflogwyr er mwyn osgoi tynnu sylw oddi wrth gynhyrchu o ddydd i ddydd.
Mae Diwydiant 4.0
wedi cyrraedd
Mae’r pedwerydd chwyldro diwydiannol, a elwir hefyd yn Ddiwydiant 4.0, yn arwain at newid aflonyddgar eang i’r ffordd y mae busnesau’n dylunio ac yn cynhyrchu cynhyrchion. I’r rhai sy’n barod i groesawu technolegau arloesol, mae hyn yn gyfle cyffrous. Gall MADE Cymru eich helpu i arfarnu eich gweithrediadau a diogelu eich busnes at y dyfodol drwy fanteisio ar bopeth sydd gan Ddiwydiant 4.0 i’w gynnig.
Dysgu mwyAm gyfnod CYFYNGEDIG, rydym yn falch iawn o allu cynnig lleoedd wedi’u hariannu’n llawn (ar gyfer busnesau cymwys) ar ein cyrsiau diwydiant a gynlluniwyd yn benodol i uwchsgilio eich gweithlu i’ch cadw ar y blaen i’ch cystadleuwyr.
DYSGU MWYByddwch yn rhan o ddyfodol Cymru
Er mwyn i economi Cymru ffynnu, mae’n hanfodol bod ein gweithgynhyrchwyr yn gyfarwydd iawn â sut i ddefnyddio’r technolegau aflonyddgar diweddaraf. Cysylltwch heddiw i gael gwybod sut y gall MADE Cymru eich helpu chi a’ch gweithlu i lywio heriau a chyfleoedd Diwydiant 4.0.